Brwydr fawr dinas Lerpwl
Gyda dyfodol Lerpwl bellach yn fwy clir, bydd y gêm ddarbi yn erbyn Everton bnawn Sul yn siwr o fod yn un diddorol a dweud y lleiaf, yn enwedig o ystyried y gall y tîm sydd yn colli'r gêm ddisgyn i waelod Uwchgynghrair Lloegr.
Tybed a fydd Lerpwl yn cynnig, neu mewn sefyllfa i gynnig, bonws i'r tîm os ydynt yn ennill?
Wel dyma yn union a ddigwyddodd yn y gêm ddarbi gyntaf a chwaraewyd rhwng y clybiau yn 1894, pan aeth cyfarwyddwyr Everton ati i gynnig bonws i'w chwaraewyr.
Ond nid arian yn unig oedd y bonws yma, ond yr hawl i dderbyn het sidan yn ogystal, ac mae cofnod o hyn i'w weld yn llyfr cofnodion Everton o'r cyfnod!
Mae'n debyg fod y cynnig yn un deniadol gan i Everton ennill o dair gôl i ddim ac ennill yr hawl i wisgo'r het!
O ran Lerpwl, mae yna ddau Americanwr wedi bod yn siarad trwy eu het ers peth amser yn Anfield.
Ond yn awr wedi digwyddiadau'r wythnos yn yr Uchel Lys yn Llundain mae disgwyl i Mr Hicks a Mr Gillett ymadael gyda pherchnogion y Boston RedSox - o dan arweiniad John W Henry - yn ffefrynnau i gydio yn yr awenau.
Ond tybed all Everton roi'r 'top hat' ar broblemau diweddar Lerpwl y penwythnos yma a'u gadael yn wynebu dyfodol anesmwyth ar y cae wrth iddynt geisio ail afael a'r safonau a fu.
O leiaf ni fyddai'n rhaid i'r clwb - os bydd cynnig John Henry yn llwyddiannus - yn gorfod pasio'r cap o gwmpas y ddinas i gasglu arian i achub y clwb mwyach, na mynd cap yn llaw at fanc y RBS am achubiaeth chwaith!
Fe ddylai bnawn Sul fod yn un unigryw iawn.
Trin a thrafod y byd pêl-droed yn ffordd unigryw criw 