Help / Cymorth

Archifau Mehefin 2010

Cadwch technoleg allan o bêl-droed

Ian Gwyn Hughes|13:40, Dydd Llun, 28 Mehefin 2010

Sylwadau (2)

lampard_gol.jpgDyna chi beth oedd penwythnos o ran gemau. Digon o goliau, digon o gyffro a digon o ddadlau, yn bennaf y trin a thrafod wedi i'r swyddogion fethu â gweld fod ergyd Frank Lampard wedi dod â Lloegr yn gyfartal yn erbyn Yr Almaen.

Pe bai'r gôl yn cyfrif, a fyddai'r canlyniad wedi bod yn wahanol? Pwy all ddweud? Ond dyw 'r penderfyniad ddim yn tynnu sylw oddi ar y ffaith fod Lloegr yn gyffredinol wedi bod yn siomedig ar y naw am y rhan fwyaf o'r gystadleuaeth.

Dwi wedi datgan ers amser o ran yr Uwch Gynghrair, dyw cyfoethocaf ddim yn golygu'r gorau. Yn sicr o ran chwaraewyr Lloegr. Maen nhw yn disgleirio yn wythnosol gan fod cymaint o dalent o Sbaen, Ffrainc, De America ac Affrica yn chwarae ochr yn ochr â nhw.

Yn gwrando ar Alan Hansen ar ôl y gêm, fe soniodd am berfformiad John Terry. Yn ôl yr Albanwr, mae hi'n anodd chwarae mewn safle dieithr, sef ochr dde'r amddiffyn yn hytrach na'r chwith cyn belled a bod Terry yn y cwestiwn. Pam felly fod Terry yn cael ei dalu cymaint - £150,000 yr wythnos a mwy - gan ei glwb Chelsea os nad ydi o'n gallu addasu, os ydi o'n cyfrif ei hun yn chwaraewr da?

Dyw Gerrard methu â gwneud hyn, dyw Lampard methu â gwneud y llall os nad ydyn nhw yn chwarae yn eu safleoedd naturiol. Go brin fod chwaraewyr o Dde America, o'r Iseldiroedd neu Sbaen yn cwyno. Maen nhw YN gallu addasu.

Rhaid bydd rŵan ailadeiladu yn ôl rhai fel Chris Waddle, ond gyda beth? Pwy ydi sêr y dyfodol i Loegr, ble mae'r talent? Roedden nhw yn ffodus iawn i gyrraedd rowndiau terfynol Pencampwriaethau dan21 Ewrop yn erbyn Cymru. Fe gyrhaeddon nhw'r rownd derfynol a chael cweir 4-0 gan Yr Almaen unwaith eto.

Yn sgil y digwyddiad gyda Frank Lampard, fe glywsom ni unwaith eto ynglŷn â chyflwyno technoleg i mewn i'r gêm. Mae tennis, rygbi, criced yn gwneud felly pam ddim pêl-droed?
Yn bersonol mi rydw i yn erbyn cyflwyno'r dechnoleg. Mae yna fwy o amser i edrych ar fideo yn rygbi ar ôl cais, neu fod batiwr yn cyffwrdd y bêl mewn gêm o griced, neu fod y bêl allan ar gwrt tennis. Ond mae pêl-droed yn gyflym.

Os cofiwch wedi ergyd Lampard aeth yr Almaen lawr i ben arall y cae a bron â sgorio eu hunain. Dwedwch fod yr Almaen wedi sgorio, ond wedi oedi fod lluniau yn dangos fod gôl Lampard yn ddilys, be wedyn? Gwrthod gôl yr Almaen a rhoi'r gôl i Loegr? Mi fyddai bedlam llwyr yn y stadiwm.

A dyna sydd yn apelio am bêl-droed a phob camp arall. Camgymeriadau, dadleuon, dyna sydd yn bynciau trafod, sydd yn llenwi oriau ar y radio a theledu. Do fe wnaeth Mauricio Espinosa y llumanwr, a'r dyfarnwr Jorge Larrionda gamgymeriad ofnadwy. Ond felly hefyd Fabio Cappello wrth ddewis Mathew Upson ac Emile Heskey. Pe bai Heskey wedi sgorio yn erbyn Yr Unol Daleithiau a phe na bai Robert Green wedi gwneud y camgymeriad yn yr un gêm, fyddai Lloegr ddim wedi gorfod wynebu'r Almaen Ddydd Sul beth bynnag.

Mae yna dipyn o fai ar bawb.

Ceisio gwneud synnwyr o Gwpan y Byd

Glyn Griffiths|16:00, Dydd Gwener, 25 Mehefin 2010

Sylwadau (0)

eidal420.jpgGyda'r Eidal a Ffrainc yn gorffen yn ddisymwth ar waelod eu grwpiau, a Mecsico, Uruguay, Brasil a Paraguay eisoes wedi cymhwyso ar gyfer y rownd nesaf, mae sylw nifer o sylwebwyr yn troi at geisio gwneud synnwyr o'r hyn sydd yn digwydd yn Ne Affrig ar hyn o bryd.

Wedi dweud hyn, mae'r Ariannin lawn mor gryf ag erioed. Brasil, fel y cyfeiriwyd atynt uchod yn llawn bygythiad tra bod yr Iseldiroedd hefyd yn dangos addewid gan brofi mai anodd ydi ceisio darogan canlyniadau!

Siom ydi canlyniadau gwledydd Affrica, yn enwedig gyda llawer o bobl (yn enwedig o fewn FIFA) yn credu mai dyma oedd y llwyfan ar gyfer llwyddiant hir disgwyliedig i un o dimau'r cyfandir.

Un o'r rhesymau sydd yn cael ei roi am fethiant gwledydd Affrica ydi'r ffaith nad oes yna unrhyw gynghrair o safon uchel mewn unrhyw wlad, gyda chwaraewyr yn cael eu hanfon y ifanc i gael eu datblygu yn Ewrop, yn hytrach na'u gweld yn aeddfedu ac yn datblygu o fewn eu gwlad eu hunain, gan allu cyrraedd safon sydd yn mynnu fod timau cyfoethog Ewrop yn gorfod talu ffi trosglwyddo amdanynt, yn hytrach na'u cael yn rhad ac am ddim pan yn ifanc.

Ychydig felly ydi gobaith y gwledydd yma o allu cyllido a chynnal chwaraewyr o safon i wella'r safon ar eu meysydd eu hunain, ac ychydig ydi'r arian sydd yn dod i'r timau er mwyn gwella safonau. (onid ydi Cymru yn yr un sefyllfa?)

O ran timau De America, sydd a'u pêl-droed deniadol, ymosodol yn tynnu ein sylw, mae Diego Forlan a Luis Suarez yn creu cyffro ar flaen y gad i Wrwgai.

Mae tîm yr Ariannin gydag agwedd hollol ymosodol (fel mae'n debyg y gellir ei ddisgwyl gan Diego Maradona), ond dylid sylwi hefyd mae Archentwyr ydi rheolwyr Chile (sydd wedi ein cyffro yn ymosodol) a Paraguay.

Tra bod sylwebwyr Ewrop yn cwyno am safon y gemau, am safon eu timau - does dim ond i chi wrando ar ohebwyr Lloegr, Ffrainc neu'r Eidal - mae llawer yn diystyru'r ffaith fod y timau sydd yn dangos athroniaeth ymosodol yn parhau i'n hymddiddori, ac yn codi fel ffefrynnau fel mae'r gemau yn cael eu cynnal.

Oeddech chi yn disgwyl gweld Mecsico, Uruguay, Chile a Paraguay yn cael eu hystyried fel timau deniadol?

Tybed a fydd yr Iseldiroedd, sydd rywsut neu'i gilydd byth yn ffitio i mewn i unrhyw batrwm neu gonfensiwn Ewropeaidd yn gallu chwalu'r ddelwedd ac argyhoeddi pawb fod yna un tîm o leiaf ar gyfandir Ewrop yn gallu dangos i dimau De America eu bod yn gallu cyflawni cystal â'r gorau.

Beth bynnag y gall Maradona ei wneud mewn dull anghonfensiynol, mae'r Iseldirwyr llawn mor anghonfensiynol eu hunain, gyda'u dull artistig o chwarae mynegol yn dangos fod y meistri hyd heddiw yn parhau i allu paentio portreadau campweithiol ar gynfas Cwpan y Byd?

Cwpan y Byd yn tanio o'r diwedd

Ian Gwyn Hughes|19:28, Dydd Mercher, 23 Mehefin 2010

Sylwadau (0)

diego.jpgWedi dechrau araf yn y gemau cynnar does dim dwywaith fod Cwpan y Byd yn Ne'r Affrica wedi cydio yn y dychymyg gyda gemau cyffrous, penderfyniadau dadleuol, canlyniadau annisgwyl a digon o ddadlau a straeon oddi ar y cae i gadw'r wasg yn hapus ac mewn gwaith am fisoedd.

Y wlad sydd yn ennill y gystadleuaeth yw'r wlad sydd dros y mis yn gallu perfformio'n gyson, sydd yn gallu cadw disgyblaeth a chadw ysbryd, disgyblaeth ac undod o fewn y garfan am fis.

Cyn y gystadleuaeth eleni roedd y darogan ynglŷn â gobeithion Yr Ariannin. Tîm cyffrous, chwaraewyr penigamp ond cymeriad anwadal yn rheolwr, sef Diego Maradona. Mi fyddai ymddygiad Maradona yn penderfynu tynged y wlad. Wel hyd yn hyn, mae pethau yn ymddangos yn fêl i gyd o fewn y garfan. Maradona yn cofleidio ei chwaraewyr, yn cicio a phenio bob pêl. Dyma wlad grafodd drwodd i'r rowndiau terfynol.

Mae hynny wrth gwrs yn gwbl wahanol i'r ysbryd o fewn carfan Lloegr a charfan Ffrainc. Yn sydyn iawn wedi dau ganlyniad gwael mae pawb a phopeth am waed Fabio Cappello. Mae'r tactegau yn anghywir; nid dyma'r chwaraewyr iawn; pam enwi tîm dwy awr cyn y gic gyntaf?

Pan roedd Lloegr yn hwylio drwy'r rowndiau rhagbrofol doedd neb yn gofyn cwestiynau bryd hynny. Ond ar ôl curo Slofenia, efallai bydd Lloegr yn symud ymlaen i fod yn weddol lwyddiannus. Ond ydyn nhw gystal â beth maen nhw yn ei feddwl?

Dyw'r ffaith fod miliynau o bunnau yn cael ei daflu at yr Uwch Gynghrair yn Lloegr ddim yn golygu mai dyma'r cynghrair gorau yn y byd. Siomedig fu Steven Gerrard y tymor hwn i Lerpwl heb bresenoldeb Xavi Alonso, dyw John Terry ddim yr un chwaraewr heb Carvalho wrth ei ochr yn yr amddiffyn. A phe bai Syr Alex Ferguson yn edrych i gryfhau Manchester United a chael hyd yn oed yn fwy allan o Wayne Rooney, dwi' n amau y byddai'n ffonio Martin O'Neill i ofyn am y posibilrwydd o ddenu Emile Heskey i Old Trafford.

Mae Lloegr wedi bod yn y safle yma o'r blaen wrth gwrs. Mi gafodd y diweddar Syr Bobby Robson ei anfarwoli gan y byd pêl-droed, ac eto ewch nôl i Gwpan y Byd ym Mecsico yn 1986 roedd o'n destun gwawd gan bawb a phopeth.

Wedi methu ag ennill eu dwy gêm gyntaf, fe anafwyd y capten Brian Robson, cafodd Ray Wilkins, chwaraewr dylanwadol arall, ei ddanfon o'r maes. Ond yn sgil hynny fe wellodd Lloegr a chyrhaeddodd y tîm rownd yr wyth olaf cyn colli yn erbyn Yr Ariannin. Yr un oedd y patrwm yn 1990 a'r sôn am bŵer y chwaraewyr yn dylanwadu ar y rheolwr. Roedd Lloegr yn anlwcus i golli yn erbyn Gorllewin yr Almaen yn y rownd gynderfynol ar giciau o'r smotyn.

A beth am Ffrainc? Wedi treulio cymaint o amser yn y wlad ar wyliau gyda'r teulu dwi am i Ffrainc wneud yn dda bob tro. Ond wedi ennill y gystadleuaeth yn 1998, yn 2002 fe aethon nhw allan yn gynnar heb ennill gêm na sgorio gôl. Fe gyrhaeddon nhw'r rownd derfynol yn 2006 a dyw pethau ddim wedi mynd yn dda eleni. Rhwygiadau yn y garfan a Nicolas Anelka yn cael ei ddanfon gartref.

Fe soniais i am fy ymweliad ag Ysgol Bro Eirwg yng Nghaerdydd a brwdfrydedd plant deg mlwydd oed wrth edrych ymlaen at y gic gyntaf a hynny er nad yw Cymru yno. Wel dychmygwch filoedd ar filoedd o blant tebyg ledled Ffrainc yn edrych ymlaen at weld eu harwyr yn cynrychioli eu gwlad yn Ne'r Affrica. Y cyffro, yr edrych ymlaen ac yna'r siom. Y newyddion fod chwaraewyr yn gwrthod ymarfer. Gwarth o beth.

Chwaraewyr Ffrainc yn anghofio yn llwyr am eu cyfrifoldeb ac yn hunanol ar y naw ac yn dangos esiampl ofnadwy.

Wythnos o gwyno

Glyn Griffiths|17:18, Dydd Iau, 17 Mehefin 2010

Sylwadau (0)

Ar ôl wythnos o gemau mae yna fwy o gwyno na chanmol.

Lloegr gyfan yn ôl y sylw a roddir i'r cwynion, yn beio Robert Green am fethu a churo'r Unol Daleithiau, ond y wasg Seisnig yn ofni beirniadu perfformiadau tila Wayne Rooney, Ashley Cole a Frank Lampard.

Llawer haws beio un sy'n chwarae gyda West Ham na cheisio barnu'r anghyffyrddadwy onid ydi!

Capello yn beio'r bêl, sylwebwyr a chwaraewyr yn beirniadu sŵn y vuvuzelas, cymaint felly fel i rywun deimlo nad ydi gwerthfawrogi diwylliant tramor yn rhan o weithgareddau Cwpan y Byd mwyach.

maradona.jpg

Ac roedd Diego Maradona yn barod i feirniadu unrhyw un sydd yn mynnu mynegi barn am unrhyw beth!

Ansawdd y pêl-droed yn cael ei feirniadu am nad oes digon o gyffro, a FIFA yn cael eu beirniadu am geisio creu elw allan o bron popeth sy'n gysylltiedig â'r digwyddiad, gan gynnwys gwerthiant y vuvuzelas sydd â logo FIFA yn glir arnynt.

Does ryfedd na wna FIFA ystyried eu gwahardd - er mwyn dangos parch i ddiwylliant De Affrig ydi'r fersiwn a geir - er mwyn creu elw iddynt eu hunain, o bosib sydd nes at y gwir.

Ie wythnos ddryslyd, ond un a welodd tîm De Affrica yn cael eu cydnabod fel y 'Bafana Bafana' tra mae Lloegr, ar y cae ac oddi ar y cae yn edrych fel petaent wedi haeddu cael eu cydnabod fel y 'Byffwns, byffwns'.

Hawdd pwyntio bys

Ian Gwyn Hughes|10:51, Dydd Mawrth, 15 Mehefin 2010

Sylwadau (0)

Dyna chi gamgymeriad nos Sadwrn o flaen miliynau yn gwylio Lloegr yn erbyn yr Unol Daleithiau. Y bêl yng nghefn y rhwyd a smonach go iawn wedi digwydd.

102016692.jpgPawb yn gweld bai, yn feirniadol o ran sylwebwyr a gwybodusion. Yn ail ddangos yr eiliadau allweddol eto ac eto ac yn canolbwyntio ar fai unigolyn. Robert Green druan.

Yr un golwr oedd Green am hanner awr wedi saith ac roedd o ar ddiwedd y gêm. Ond oherwydd un camgymeriad, yn ôl rhai roedd ei yrfa ryngwladol ar ben. Rhaid oedd cael newid a rhoi cyfle yn y gêm nesaf yn erbyn Algeria.

Pwy oedd y dewis felly? David James, oedd yn ôl llawer cyn y gêm yn erbyn yr Unol Daleithiau yn dioddef gydag anaf ac yn euog o wneud gormod o gamgymeriadau, neu Joe Hart oedd yn ddibrofiad?

Ond nid Robert Green oedd yn gyfrifol am fethiant Lloegr ddydd Sadwrn. Fel tîm doedden nhw ddim digon da .Cafodd Emil Heskey ganmoliaeth ond fe fethodd o gyfle bendigedig i ennill y gêm. Ble oedd Wayne Rooney - Messi Lloegr yn ôl yr arbenigwyr cyn y gêm? Go brin.

Be am Jamie Carragher oedd mor araf yn y cefn pan ddaeth o ymlaen fel eilydd? Pwy achubodd Carragher? Robert Green wrth gwrs gyda'i arbediad yn yr ail hanner. A beth bynnag, pa hawl neu ddisgwyl oedd i Loegr guro'r Unol Daleithiau?

Ond nid Lloegr fydd y tîm cyntaf i gychwyn yn araf a mynd ymlaen i fod yn llwyddiannus. A thra bod y disgwyliadau cyn y gystadleuaeth yn mynd dros ben llestri yn fy marn i, mae'r ymateb i un gêm gyfartal hyd yn oed yn waeth.

Wedyn yn gwrando ar sylwebaeth Algeria a Slofenia roedd y darogan y byddai Lloegr yn curo'r ddwy wlad yn gyfforddus. Efallai bod hynny'n wir yng nghyd-destun Algeria ond ar ba sail Slofenia?

'Dw i'n siŵr fod nerfusrwydd yn chwarae rhan enfawr yn y gemau cyntaf yma. Wedi gweithio mor galed i gyrraedd y rowndiau terfynol does neb am daflu'r cyfle i ffwrdd yn y 90 munud cyntaf, fel Awstralia neu Denmarc er enghraifft.

Mor braf oedd gweld y llawenydd ar wynebau chwaraewyr Slofenia, gwlad fechan yn dathlu eu buddugoliaeth gyntaf ar y lefel yma. Ac wedi curo Rwsia yn y gemau ail gyfle i gyrraedd De'r Affrig, sut fod un yn gallu eu diystyru yn erbyn Lloegr dydw i ddim yn siŵr. Mae llwyddiant gwlad fel Slofenia yn rhoi gobaith i wledydd fel Cymru bod modd chwarae a chystadlu ar y lefel uchaf.

Mae'n amlwg fod gwledydd fel Yr Almaen a'r Ariannin wedi setlo i lawr yn gyflym ond pwy fydd yn addasu orau yn y mis nesaf fydd yn cyfrif. Efallai bod rhai ohonoch chi'n cofio grwpiau rhagbrofol 1982.

Roedd Brazil yn wych, Socrates, Falcao ac yn y blaen yn wefreiddiol ac yn ffefrynnau amlwg. Y tîm gorau yn ôl llawer i fethu ag ennill Cwpan y Byd. Yn y tair gêm gyntaf roedd yr Eidal yn ofnadwy. Ond fe grafon nhw drwodd. Pan chwaraeon nhw Brazil, fe sgoriodd Rossi hat-tric ac roedd y ffefrynnau ar eu ffordd yn ôl.

Gyda llaw, y cwmni teledu oedd yn darlledu ac yn ail ddangos camgymeriad Robert Green oedd yr un cwmni oedd yn darlledu ar y dull HD ac aeth i hysbyseb pan roedd Steven Gerrard yn rhoi Lloegr ar y blaen. Fel dwi 'n dweud. Hawdd pwyntio bys.

Clonc Cwpan y Byd - sgwrs byd-eang amlieithog!

Categorïau:

Criw Ar y MarcCriw Ar y Marc|13:03, Dydd Gwener, 11 Mehefin 2010

Sylwadau (0)

Dyma gyfle unigryw i ffans pêl-droed Cymraeg sgwrsio gyda chefnogwyr eraill ar draws y byd.

Mae pêl-droed yn un o'r ieithoedd gwirioneddol fyd-eang. Ble bynnag yr ewch chi, mae cefnogwyr pêl-droed wrth eu bodd yn siarad am eu timau a'r chwaraewyr rhyngwladol mawr.

Clonc Cwpan y Byd

Prynhawn yma rhwng 2.30-6pm bydd gwefan BBC Cymru ar y cyd â gwefan BBC World Service yn cynnal arbrawf arbennig i ddod â chefnogwyr at ei gilydd waeth pa iaith maen nhw'n siarad. Mae Clonc Cwpan y Byd yn gyfle i gael sgwrs fyd-eang, amlieithog.

Yn ystod seremoni agoriadol a gêm gyntaf Cwpan y Byd heddiw, fyddwn ni'n agor stafell sgwrsio rhyngweithiol ar y wefan i drafod y gystadleuaeth a'r gêm rhwng De Affrica a Mecsico.

Allwch chi deipio'ch sylwadau mewn unrhyw un o 11 iaith a bydd technoleg Google Translate yn trosi'r neges i'r holl ddefnyddwyr yn yr ieithoedd eraill: Albaneg, Arabeg, Tsieinëeg, Saesneg, Perseg, Portwgaleg, Rwsieg, Sbaeneg, Swahili, Fietnameg a'r Gymraeg.

Fydd y pwyslais ddim ar gywirdeb y cyfieithu, ond yn hytrach ar ddod â chefnogwyr pêl-droed o bob rhan o'r byd at ei gilydd i drafod, beth bynnag fo'u mamiaith.

Bydd y sgwrsio yn dechrau am 2.30pm heddiw - ymunwch â ni ar gyfer Clonc Cwpan y Byd!

Y disgwyl ar ben o'r diwedd

Glyn Griffiths|11:06, Dydd Gwener, 11 Mehefin 2010

Sylwadau (0)

O'r diwedd mae'r amser wedi cyrraedd ac Affrica yn torri cwys hanesyddol newydd wrth weld gwlad De Affrica yn cynnal Cwpan y Byd ar y cyfandir am y tro cyntaf.

I mi mae Cwpan y Byd yn achlysur arbennig, a hynny am fy mod, yn fy arddegau hwyr, wedi bod yn bresennol ym mhob un o gemau Cwpan y Byd a gynhaliwyd yn Llundain yn 1966, a hynny yn cynnwys y ffeinal. Ie, mi roeddwn yn Wembley pan ddaeth Lloegr yn bencampwyr y Byd.

Ond nid y ffaith fod Lloegr wedi cipio'r Gwpan sydd bwysig, beth sydd yn bwysig, ac sydd wedi dylanwadu ac ysbarduno fy niddordeb yn y gêm fyth ers hynny, ydi fy mod wedi cael profi rhywbeth a fyddai unrhyw gefnogwr go iawn yn rhoi unrhywbeth am fod yno, sef gweld a bod yn bresennol, yn y ffeinal ei hun.

Prynais gyfres o ddeg tocyn (gan gynnwys y ffeinal) am saith bunt a phymtheg swllt (£7.75 heddiw) ar ôl gweld hysbysiad gan Gymdeithas Bêl-droed Lloegr mewn papur newydd. Roedd y pecyn yma o ddeg ticed yn cynnwys un i'r ffeinal (pwy bynnag fyddai yno) am bris o un bunt a phymtheg swllt (£1.75) - pris a oedd yn cael ei ystyried yr adeg hynny fel rhywbeth hollol afresymol ac uwchben pob rheswm!

Daeth Gordon Banks, Bobby Moore a Bobby Charlton yn arwyr, ac felly hefyd Eusebio, Uwe Seeler a Lev Yashin, er imi hefyd golli parch tuag at yr Ariannin a'u capten Antonio Rattin.

Mae Cwpan y Byd 2012 wedi cyrraedd, a does ddim ots gen i pwy sydd yn curo, er nad ydw'i byth wedi maddau i'r Ariannin, am eu twyll a'u budreddi yn '66, a tydi gweld Diego Maradona yn eu rheoli yn gwneud dim i fy argyhoeddi fod pethau wedi gwella chwaith!

Mae gen i fodd bynnag rhyw deimlad y byddai pêl-droed deniadol yr Iseldiroedd yn werth cadw golwg arno dros y mis nesaf. Ond gyda Sbaen a Brasil yn ymddangos fel ffefrynnau i bron pawb, mae'n anodd dadlau yn erbyn y posibilrwydd o weld y Gwpan yn gorffen i fyny yn un o'r ddwy wlad yma.

Ond yr hyn sydd bwysicaf ydi sicrhau y byddwn i gyd yn mwynhau pêl-droed o'r safon uchaf, profi cyffro di-dor, ac i mi, dyma gyfle arall i ail fyw atgofion personol am 1966, a'u cynnal a'u cadw llawn mor fyw ac erioed.

'Nkosi Sikeleli Africa' - mae'r gemau yn dechrau.

Mwynhewch bob munud o'r achlysur, a gwnewch yn fawr ohonynt.

Cyffro Cwpan y Byd

Ian Gwyn Hughes|11:25, Dydd Mercher, 9 Mehefin 2010

Sylwadau (1)

Ddechrau'r wythnos mi roeddwn ni wedi mynd i Ysgol Gynradd Gymraeg Bro Eirwg yng Nghaerdydd i gynnal sgwrs gyda disgyblion 10 mlwydd oed am Gwpan y Byd.

Thumbnail image for cefnogwr_cwpanbyd.jpgFe gawson ni dros awr o drin a thrafod, o holi ac ateb ac roedd brwdfrydedd y plant yn anhygoel. Fel rhan o'u gwaith wrth edrych ymlaen at y gystadleuaeth, roedden nhw wedi bod yn gwneud prosiect ar bob gwlad fydd yn chwarae yn y gystadleuaeth. Agweddau ar ddaearyddiaeth gwlad, hanes, enwogion ac yn y blaen - heb anghofio wrth gwrs y pêl-droed. Mae'n debyg mai'r gystadleuaeth yma yn Ne'r Affrig fydd y cyntaf y byddan nhw'n ei chofio pan fydden nhw'n edrych yn ôl.

Mi fuon ni'n trafod hoff chwaraewyr, pwy oedd yn mynd i ennill a pha wlad fyddan nhw'n ei ddilyn. Y gwledydd oedd yn denu'r gefnogaeth oedd Brasil, Sbaen, Lloegr yr Ariannin a'r Traeth Ifori. Fe drafodon ni chwaraewyr fel Drogba, Messi, Ronaldo ac yn y blaen, ac roedd y cyffro, yr edrych ymlaen a'r brwdfrydedd yn amlwg.

Yr un diwrnod mi fues i'n gwrando ar y newyddiadurwr pêl-droed enwog Brian Glanville yn trafod y gystadleuaeth o'i brofiad o'i ddilyn am 13 tro diwethaf. Roedd ei agwedd o'n fwy beirniadol - y gystadleuaeth yn rhy fawr o ran niferoedd, yn rhy hir o ran amser cynnal y gystadleuaeth ac yn ei farn o yn is o ran safon chwarae.

Pan roeddwn i'n trafod gyda'r plant, mi roeddwn yn sôn am y gystadleuaeth gyntaf dwi'n ei gofio go iawn nôl yn 1970 ym Mecsico. Dyma'r flwyddyn enillodd Brazil wrth guro'r Eidal yn y rownd derfynol o bedair i un. Tîm Carlos Alberto, Clodoaldo, Gerson, Jairzinho, Rivelino, Tostao ac wrth gwrs Pele. Hyd heddiw dwi dal i feddwl mai'r bedwaredd gôl yw'r gôl orau o ran tîm imi ei gweld.

Mi roeddwn wedi casglu lluniau o'r chwaraewyr i gyd ymhob tîm mewn llyfr lliwgar. Mi roedd uchafbwyntiau o'r gemau yn cael eu dangos peth cyntaf yn y bore ar y teledu. Roedd hyn yn beth newydd, doedd dim teledu fel arfer tan amser cinio.

Dwi'n cofio gwylio Brasil yn rhoi cweir i Tsiecoslofacia ac ymdrech anhygoel gan Pele o'r hanner ffordd bron a churo Viktor yn y gôl. Deugain mlynedd yn ddiweddarach mi allai dal gofio'r anghrediniaeth pan gollodd Lloegr, pencampwyr y byd, yn erbyn Gorllewin yr Almaen yn rownd yr wyth olaf wedi bod ar y blaen o ddwy i ddim.

Peth arall oedd yn wahanol wrth gwrs bryd hynny oedd mai unwaith bob pedair blynedd oedd yna gyfle i wylio Pele a Brazil, unwaith bob dwy flynedd i wylio'r Eidal a Riva, Gorllewin yr Almaen ac Overath. O ble daeth Cruyff; pwy oedd y chwaraewyr yma o Affrica gydag Algeria a Moroco? A beth oedd oblygiadau gêm yn 1974 rhwng Gorllewin a Dwyrain yr Almaen?

Erbyn hyn mi rydan ni'n gwybod popeth sydd i wybod am y timau a'u chwaraewyr oherwydd bod yr Uwch Gynghrair, Chynghrair y Pencampwyr a phêl-droed Sbaen a'r Eidal i gyd yn fyw yn wythnosol ar y teledu. Ac eto mae'r cyffro'r un peth.

Gyda llaw, wrth holi'r plant fe ofynnais iddyn nhw am eu hoff glwb. A'r ateb? Wel er iddyn nhw orffen yn seithfed yn yr Uwch Gynghrair ac i'r rheolwr adael am Inter Milan, Lerpwl oedd fwyaf poblogaidd.

Ta ra Rafa la

Glyn Griffiths|13:22, Dydd Gwener, 4 Mehefin 2010

Sylwadau (0)

Mae 'na dŷ gwag yn mynd ar werth gyferbyn a'n tŷ ni. Ond nid dros y ffordd mae'r tŷ yma, ond dros yr afon Ddyfrdwy.

Mae'r tŷ, neu'r 'hangle o blasdy mawr' fel y byddai Elis Wynne yn ei ddisgrifio, wedi ei leoli ar Benrhyn Cilgwri ac ar fin fod yn wag gan fod ei berchennog, ar fin mynd i'r Eidal neu Sbaen, o bosibl, i chwilio am rywbeth sy'n anodd iawn ei ddarganfod yn yr Uwchgynghrair gyda Lerpwl : llwyddiant.

Ie, ta ra Rafa la!

£6miliwn o iawndal am fethiant - pa waith neu broffesiwn arall fyddai yn talu cymaint am fethu a llwyddo?
rafa_benitez.jpg

Gwariodd Rafael Benitez £229,340,000 ar ddod a saith deg a saith o chwaraewyr i Lerpwl mewn cyfnod o bum mlynedd, gan leihau'r gwariant yma drwy ddod a £151,000,000 i mewn drwy gael gwared a'r rhai nad oedd lle iddynt yn ei garfan.

Mae hyn yn gadael £78,340,000 o arian a wariwyd ac na lwyddodd i ddod â hyd yn oed pêl droed Ewropeaidd i Anfield ar gyfer y tymor nesaf. Efallai bod Benitez wedi ennill Cynghrair y Pencampwyr yn ei dymor cyntaf, ond onid tîm wedi ei greu gan Gerard Houllier oedd hwn mewn gwirionedd?

I glwb sydd erbyn heddiw gyda dyledion o £351miliwn, mae'r sefyllfa yn Lerpwl, fel y byddai Wali Tomos yn ei ddweud, yn dipyn o greisys!

Beth nesa' i Lerpwl?

Bydd sylw'r cefnogwyr, sydd wedi dangos teyrngarwch a ffydd ( 'in Rafa we trust') yn Benitez yn siŵr o droi tuag at atgasedd at y perchnogion Americanaidd, George Gillett a Tom Hicks, sydd yn cael y bai am y £351milwn o ddyled.

"You'll never walk alone" - efallai wir, ond mae ar lawer o bobl sydd yn cerdded o gwmpas Anfield ar hyn o bryd, angen dipyn o ffrindiau i gadw cwmni iddynt.

BBC © 2014Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.