Help / Cymorth
« Blaenorol|Hafan|Nesaf »

Cadwch technoleg allan o bêl-droed

Ian Gwyn Hughes|13:40, Dydd Llun, 28 Mehefin 2010

lampard_gol.jpgDyna chi beth oedd penwythnos o ran gemau. Digon o goliau, digon o gyffro a digon o ddadlau, yn bennaf y trin a thrafod wedi i'r swyddogion fethu â gweld fod ergyd Frank Lampard wedi dod â Lloegr yn gyfartal yn erbyn Yr Almaen.

Pe bai'r gôl yn cyfrif, a fyddai'r canlyniad wedi bod yn wahanol? Pwy all ddweud? Ond dyw 'r penderfyniad ddim yn tynnu sylw oddi ar y ffaith fod Lloegr yn gyffredinol wedi bod yn siomedig ar y naw am y rhan fwyaf o'r gystadleuaeth.

Dwi wedi datgan ers amser o ran yr Uwch Gynghrair, dyw cyfoethocaf ddim yn golygu'r gorau. Yn sicr o ran chwaraewyr Lloegr. Maen nhw yn disgleirio yn wythnosol gan fod cymaint o dalent o Sbaen, Ffrainc, De America ac Affrica yn chwarae ochr yn ochr â nhw.

Yn gwrando ar Alan Hansen ar ôl y gêm, fe soniodd am berfformiad John Terry. Yn ôl yr Albanwr, mae hi'n anodd chwarae mewn safle dieithr, sef ochr dde'r amddiffyn yn hytrach na'r chwith cyn belled a bod Terry yn y cwestiwn. Pam felly fod Terry yn cael ei dalu cymaint - £150,000 yr wythnos a mwy - gan ei glwb Chelsea os nad ydi o'n gallu addasu, os ydi o'n cyfrif ei hun yn chwaraewr da?

Dyw Gerrard methu â gwneud hyn, dyw Lampard methu â gwneud y llall os nad ydyn nhw yn chwarae yn eu safleoedd naturiol. Go brin fod chwaraewyr o Dde America, o'r Iseldiroedd neu Sbaen yn cwyno. Maen nhw YN gallu addasu.

Rhaid bydd rŵan ailadeiladu yn ôl rhai fel Chris Waddle, ond gyda beth? Pwy ydi sêr y dyfodol i Loegr, ble mae'r talent? Roedden nhw yn ffodus iawn i gyrraedd rowndiau terfynol Pencampwriaethau dan21 Ewrop yn erbyn Cymru. Fe gyrhaeddon nhw'r rownd derfynol a chael cweir 4-0 gan Yr Almaen unwaith eto.

Yn sgil y digwyddiad gyda Frank Lampard, fe glywsom ni unwaith eto ynglŷn â chyflwyno technoleg i mewn i'r gêm. Mae tennis, rygbi, criced yn gwneud felly pam ddim pêl-droed?
Yn bersonol mi rydw i yn erbyn cyflwyno'r dechnoleg. Mae yna fwy o amser i edrych ar fideo yn rygbi ar ôl cais, neu fod batiwr yn cyffwrdd y bêl mewn gêm o griced, neu fod y bêl allan ar gwrt tennis. Ond mae pêl-droed yn gyflym.

Os cofiwch wedi ergyd Lampard aeth yr Almaen lawr i ben arall y cae a bron â sgorio eu hunain. Dwedwch fod yr Almaen wedi sgorio, ond wedi oedi fod lluniau yn dangos fod gôl Lampard yn ddilys, be wedyn? Gwrthod gôl yr Almaen a rhoi'r gôl i Loegr? Mi fyddai bedlam llwyr yn y stadiwm.

A dyna sydd yn apelio am bêl-droed a phob camp arall. Camgymeriadau, dadleuon, dyna sydd yn bynciau trafod, sydd yn llenwi oriau ar y radio a theledu. Do fe wnaeth Mauricio Espinosa y llumanwr, a'r dyfarnwr Jorge Larrionda gamgymeriad ofnadwy. Ond felly hefyd Fabio Cappello wrth ddewis Mathew Upson ac Emile Heskey. Pe bai Heskey wedi sgorio yn erbyn Yr Unol Daleithiau a phe na bai Robert Green wedi gwneud y camgymeriad yn yr un gêm, fyddai Lloegr ddim wedi gorfod wynebu'r Almaen Ddydd Sul beth bynnag.

Mae yna dipyn o fai ar bawb.

SylwadauAnfon sylw

  • 1. Am 10:42 ar 29 Mehefin 2010, Dylan Roberts ysgrifennodd:

    Dwi'n cael llond bol ar y mwydro ma sydd yn mynd ymlaen ynglun a cyflog chwaraewyr pel droed. Y cwestiwn "a ydi John Terry yn werth £150,000 yr wythnos?"
    Fel yn unrhyw faes, prynnu ty, prynnu car ail law....gwerth rhywbeth ydi faint mae rhywun yn fodlon talu!!
    Beth ydi gwerth actor fel Tom Cruise...mae o yn cael miliynnau am wneud un film...oes yna rhywun yn gofynn ydi o werth hynny?
    Mae'r chwaraewyr yma yn llenwi stadiwm bod Dydd Sadwrn, mae nhw yn dod a incwm teledu i fewn i'r clwb, mae nhw yn denu arian noddwyr, mae nhw yn sicrhau fod cefnogwyr yn prynnu crysau a nwyddau....yn y bon mae nhw yn dod a miliynnau i fewn i'r clwb...felly yn fy marn i y nhw ddylai elwa o hynny.
    Pan dwi yn talu fy arian i brynnu tocyn tymor dwi isho i'r arian yna fynd i'r chwaraewyr dim i gyfranddalwyr!!
    Cyn belled a thechnoleg....dwin rhyfeddu dy fod yn dadlau dros adael pethau fel y mae nhw....gadael i bethau fel penderfyniadau gwael ac efallai twyll (deifio a llawio...not mentioning any names Thiery Henri) barhau pan fod yna fodd ei stopio. Ac yn dy engraifft di o yr Almaen yn sgorio ar ol "gol" Frank Lampard....wel wrth gwrs mi fyddet yn gwrthod gol yr Almaen a rhoi goal i Lloegr...ac wedi i bawb yn y stadiwm weld yr ail chwarae ar y sgrin fawr fyddai gan neb unrhyw broblem!!!
    Mae dod a thechnoleg i fewn yn union fel "seat-belts" yn y car. Mae rhai ohonnom yn cofio yr holl halabalw pan ddaeth hynny gyntaf ond erbyn hyn mae'r peth yn hollol naturiol a pawb yn meddwl beth oedd ar y ffyliad gwirion oedd yn erbyn y peth yn y lle cyntaf!!!

  • 2. Am 21:47 ar 30 Mehefin 2010, Dan Din ysgrifennodd:

    Y gwir yw ei bod hi'n braf iawn gweld Lloegr falch yn llwyddo... i wneud ffyliaid o'u hunain. Hir oes i'r Sais i'n diddanu.

    O ran cyflogau'r chwaraewyr - cytuno i raddau gyda Dylan Roberts - tra'n bod ni'n byw mewn cymdeithas gyfalafol - mae'n addas, ac yn well gen i, ein bod yn rhoi'r arian mawr i wyr a gwragedd y celfyddyau a chwaraeon nac i fusneswyr barus a milwyr blin!

BBC © 2014Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.