Help / Cymorth
« Blaenorol|Hafan|Nesaf »

Methiant rhyngwladol

Glyn Griffiths|14:18, Dydd Iau, 1 Gorffennaf 2010

Petaech chi'n byw gerllaw'r A55, yna fe fyddwch yn hollol ymwybodol o faint o gefnogwyr pêl-droed o Ogledd Cymru sydd yn ei heidio am Fanceinion neu Lerpwl ar benwythnosau a chanol wythnos i gefnogi eu hoff dîm pêl-droed.

Byddwch hefyd yn ymwybodol nad ydi llawer o'r teithwyr yma erioed wedi mynychu unrhyw gêm yn Uwchgynghrair Cymru - er iddynt ystyried eu hunain yn Gymry rhonc ac yn gwawdio unrhyw un a feiddiai chwifio baner San Siôr yn ystod Cwpan y Byd.
lloegr.jpg

Ond mae cefnogi Lerpwl neu Manchester United yn hollol wahanol ond ydi!
Ie wir, tydi rhai pobol am ei chael hi ddwy ffordd, ac yn meddu ar safonau dwbl!

Mae'n eithaf clir fod gan brif glybiau Uwchgynghair Lloegr ddyledion a'u bod yn dibynnu ar gyrraedd Cystadlaethau Ewrop sef Cynghrair y Pencampwyr yn bennaf fel achubiaeth neu gynhaliaeth os am leihau eu dyledion ac aros ymysg y timau gorau ar y brig.

Er mwyn cyflawni hyn, mae'r timau yma yn llawn dop o dramorwyr a all, yn ôl perchnogion a rheolwyr y clybiau, ddod ac achubiaeth ariannol iddynt.

Does ryfedd felly na all tîm Lloegr lwyddo. Does yna ddim digon o chwaraewyr da yn chwarae'n gyson ac yn rheolaidd yn yr Uwchgynghrair i allu cynnal tîm llwyddiannus ar y llwyfan rhyngwladol.

Ydi'r timau yma am gymryd siawns a rhoi chwaraewyr dibrofiad ifanc yn eu timau yn gyson, pan ellir prynu sêr byd eang profiadol yn eu lle?

Petai chi wedi prynu tîm yn Lloegr ac am wneud elw o'ch buddsoddiad, a fydda' chi'n fodlon eich byd petai'r rheolwr yn dibynnu ar y rhai ifanc dibrofiad er mwyn sicrhau fod Lloegr yn cael mwy o chwaraewyr addawol i'r dyfodol, ac yn rhoi llwyddiant ac elw ariannol y clwb yn ail i ofynion y genedl?

Does rhyfedd na all eu tîm cenedlaethol lwyddo.

Yn anffodus mae chwaraewyr ifanc Cymru o dan yr un drefn, o dan yr un gyfundrefn hyfforddi ac o dan ofalaeth yr union reolwyr a pherchnogion sydd ddim yn poeni am ganlyniadau na pherfformiadau timau cenedlaethol Cymru, Lloegr nac unrhyw wlad arall.

A fydda' chi yn fodlon aberthu eich elw, a'ch buddsoddiad mewn clwb sydd mewn dyled er mwyn gweld Cymru yn cyrraedd ffeinals Cwpan y Byd, neu Bencampwriaeth Ewrop? Sgersli belief!

Hyd nes bydd yna newid yn agwedd hunanol clybiau Lloegr, alla'i ddim gweld unrhyw olau ar ddiwedd y twnnel o anobaith mae Uwchgynghair Lloegr wedi ei greu.

Bydd y cefnogwyr unllygeidiog, gan gynnwys y Cymry hynny sydd heb unrhyw synnwyr ble mae caeau pêl-droed Bangor na Phrestatyn wedi eu lleoli, yn parhau i deithio ar hyd yr A55, yn parhau i ganu eu hanthemau Seisnig, ac yn parhau i feio Cymdeithas Bêl Droed Cymru am bopeth sydd o'i le gan na allwn roi tîm o unrhyw safon ar y cae mewn gemau rhyngwladol.

Edrychwch ychydig nes adra, bois!

SylwadauAnfon sylw

  • 1. Am 22:24 ar 1 Gorffennaf 2010, Josgin ysgrifennodd:

    Clywch , clywch. Edrych ymlaen at 'Ar y marc' lle na crybwyllir yr un clwb o Lloegr.

  • 2. Am 15:16 ar 8 Gorffennaf 2010, Gwyneth ysgrifennodd:

    Pam ddylai newid ym Mhrif Gyngrair Lloegr wneud pethau'n well i dim peldroed rhyngwladol Cymru?

    Yn fy marn i, pe bai'r Brif Gyngrair yn Lloegr yn dechrau rhoi mwy o bwyslais ar ddatblygu chwaraewyr ifanc, byddai tim Cymru ar ei golled. Wedi'r cwbl, un o amcanion y Brif Gyngrair yn Lloegr ydi i wella safon tim peldroed rhyngwladol Lloegr. Ar hyn o bryd, dydi'r clybiau ddim yn cymeryd sylw o'r amcan hwnnw (am y rhesyma a amlinellir uchod) ond pe baent yn dechrau gwneud hynny, yna yn siwr fe fyddai cyfleon i Gymry ifanc yn prinhau. Wrth gwrs, ni fyddai unrhyw glwb yn gwrthod Giggs neu Ramsey, ond a fyddai chwaraewyr megis Hennesey neu Davies yn cael cyfle i chwarae ym Mhrif Gyngrair Lloegr pe bae'r clybiau'n cymryd yr amcan o wella safon tim rhyngwladol Lloegr o ddifri? Dwi'n amau'n fawr.

    Yn fy marn i, dim ond un ffordd sy' na i wella safon tim peldroed rhyngwladol Cymru - a gwella safon Uwch-Gynghrair Cymru ydi hynnu. Wedyn, gallai nifer fawr o chwaraewyr ifanc safonol o Gymry chwarae peldroed o safon gweddol uchel pob wythnos. Wrth gwrs, yr unig ffordd i godi safon y gynghrair ydi mynnu fod holl dimau peldroed Cymru yn chwarae yng nghynghreiriau Cymru. Does 'na ddim ffordd arall.

    Efallai y gwna'r gynghrair "deuddeg disglair" rhywfaint o les i safon y beldroed a chwaraeir yn Uwch-Gynrhair Cymru, ond mae'n amhosib codi'r safon lawer heb i Gaerdydd, Abertawe, Wrecsam, Casnewydd, Merthyr a Bae Colwyn gymeryd eu lle yn y gyngrhair.

BBC © 2014Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.