Enghreifftiau pellach ar gyfer yr haenau ganolradd ac uwch
1. Defnyddia’r tabl isod i lunio graff trawsnewid ar gyfer litrau a galwyni. Plotia 0 i 20 galwyn ar yr echelin \({x}\) a 0 i 100 litr ar yr echelin \({y}\).
2. Gan ddefnyddio’r trawsnewidiad 1 filltir = 1.6 km, llunia graff trawsnewid ar gyfer milltiroedd a km. Plotia 0 i 50 milltir ar yr echelin \({x}\) a 0 i 80 km ar yr echelin \({y}\).
3. Mae modurwraig o Brydain yn mynd â’i char i Ffrainc am y penwythnos. Mae’n teithio pellter o 400 km ac yn defnyddio 27 litr o danwydd. Hoffai wybod a yw hyn yn debyg i’w thraul tanwydd arferol hi, sef 45 ± 5 MYG (milltir y galwyn). Defnyddia dy graffiau trawsnewid i drawsnewid km i filltiroedd, a litrau i alwyni, ac yna cyfrifa ei thraul tanwydd tra’i bod yn Ffrainc. A yw hyn o fewn ei hamrediad arferol?
4. Mae modurwr o Ffrainc yn teithio’r ffordd arall a thra’i fod ym Mhrydain mae’n teithio 450 milltir ac yn defnyddio 9 galwyn o ddiesel. Hoffai wybod a yw ei draul tanwydd o fewn ei amrediad arferol, sef 20 ± 2 km/litr. Defnyddia dy graffiau trawsnewid i drawsnewid milltiroedd i km, a galwyni i litrau, ac yna cyfrifa ei draul tanwydd tra’i fod ym Mhrydain. A yw hyn yn ei amrediad arferol?
Datrysiad
Graffiau enghreifftiol:
Cyfrifiadau
Modurwraig o Brydain: 400 km = 250 milltir, 27 litr = 6 galwyn.
Traul tanwydd mewn MYG = 250 ÷ 6 = 41.67 MYG (i ddau le degol).
Ydy, mae hyn o fewn ei hamrediad arferol.
Modurwr o Ffrainc: 450 milltir = 720 km, 9 galwyn = 41 litr.
Traul tanwydd mewn MYG = 720 ÷ 41 = 17.56 km/litr (i ddau le degol).
Na, nid yw hyn o fewn ei amrediad arferol. Mae’n is.