GraffiauDarllen graffiau teithio

Gallwn ddefnyddio graffiau er mwyn cyflwyno data’n eglur, ac i’n cynorthwyo wrth wneud gwaith cyfrifo, er enghraifft ar ffurf graffiau trawsnewid a graffiau teithio. Gall graffiau fod yn gamarweiniol.

Part ofMathemateg RhifeddAlgebra

Darllen graffiau teithio

Mae graff teithio’n dangos y pellter a deithiwyd o bwynt penodol yn erbyn yr amser. Mae hyn yn ein galluogi i nodi’r cyflymder teithio, pwyntiau lle nad oedd unrhyw symudiad a phryd y dychwelir at y man cychwyn.

Mae’n bwysig ein bod yn gallu adnabod y mathau canlynol o symudiad ar graff pellter-amser:

Gan nad yw’r pellter yn newid, mae’r llinell lorweddol yn nodi cyfnod llonydd.

Graff llinell syth. Mae gan yr echelin y label 'pellter' ac mae gan yr echelin x label 'amser'. Lluniwyd llinell goch yn llorweddol o'r echelin y

Mae llinell syth yn dangos bod y gwrthrych yn symud ar gyflymder cyson. Gan edrych ar y graff, gallwn weld bod y llinell werdd yn fwy serth na’r un goch. Mae hyn yn golygu bod y cyflymder yn fwy.

Gallwn gyfrifo’r cyflymder drwy ddefnyddio’r fformiwla:

\({cyflymder} = {pellter} ÷ {amser}\)

Graff llinell syth. Mae gan yr echelin y label 'pellter' ac mae gan yr echelin x label 'amser'. Mae llinell wyrdd a llinell goch yn codi o'r tarddiad. Mae'r llinell wyrdd yn fwy serth na'r un goch

Mae’r llinell grom hon yn cychwyn yn serth ac yna mae’r goledd yn fwy graddol. Mae hyn yn nodi arafiad.

Graff ceugrwm i lawr. Mae gan yr echelin y label 'pellter' ac mae gan yr echelin x label 'amser'

Mae’r llinell grom hon yn mynd yn fwy serth wrth i’r amser gynyddu. Mae hyn yn nodi cyflymiad.

Graff ceugrwm i fyny. Mae gan yr echelin y label 'pellter' ac mae gan yr echelin x label 'amser'

Enghraifft

Mae’r graff pellter-amser hwn yn dangos taith person. Gallwn edrych ar bob rhan o’r graff yn unigol er mwyn gweld beth sy’n cael ei ddangos.

Graff pellter amser yn dangos taith unigolyn. Mae gan yr echelin y label 'milltiroedd a adref', ac mae gan yr echelin x label 'amser'. Mae llinell goch yn dangos gwahanol gyfnodau taith yr unigolyn

Question

1. Beth sy’n digwydd yn rhan y daith sydd wedi ei labelu ag A?

2. Beth alli di ei ddweud am ran B y daith?

3. Ar ba gyflymder mae’r person yn teithio yn rhan C?

4. Disgrifia beth sy’n digwydd yn Ch.

5. Ar ba gyflymder mae’r person yn teithio yn rhan olaf y daith, rhan D?

Question

Beth yw cyfanswm y pellter a deithiwyd?