Graffiau camarweiniol
Mae nifer o ffyrdd y gellir trin graffiau er mwyn cyflwyno safbwynt penodol.
Edrycha ar y graffiau canlynol a phenderfyna sut mae’r ysgrifennydd wedi camddehongli’r graff, neu sut mae’r graff wedi ei gyflwyno mewn ffordd gamarweiniol.
Question
Beth sy’n gamarweiniol am y graff a’r datganiad hwn?
Mae dwywaith cymaint o gŵn na chathod yn y DU.
Er bod bar nifer y cŵn ddwywaith cymaint â bar y cathod, nid yw hyn yn golygu bod dwywaith cymaint o gŵn. Gan edrych yn ofalus ar y raddfa, gwelwn nad yw’n cychwyn ar 0. Mae 9 miliwn o gŵn a thua 7.8 miliwn o gathod – yn bendant nid yw hyn yn hanner y nifer.
Question
Beth sy’n gamarweiniol am y graff a’r datganiad hwn?
Rhybudd am gynhesu byd-eang! Mae’r capiau iâ’n toddi a’r glawiad yn cynyddu. Mae’n debyg y bydd yn parhau i gynyddu o hyn ymlaen.
Un rhan o un flwyddyn yn unig mae’r graff yn ei ddangos. Fe fyddet ti’n disgwyl i’r glawiad cyfartalog gynyddu o’r haf i’r gaeaf. Nid yw’n cynrychioli tuedd gyffredinol.
Question
Beth sy’n gamarweiniol am y graff a’r datganiad hwn?
Diesel yw hoff danwydd pobl.
Wrth gael cipolwg, mae’n ymddangos mai diesel sydd â’r gyfran fwyaf a 45% yw’r ganran uchaf. Wrth edrych yn fanylach, gwelwn fod y canrannau’n adio i 120%. Felly, ni allwn gasglu unrhyw wybodaeth o’r siart cylch hwn gan ei bod yn amlwg nad yw’n cynrychioli’r data’n gywir.