Llunio graffiau teithio
I lunio graff teithio, rhaid i ti ddarllen yr wybodaeth a roddir yn ofalus a llunio’r llinell un rhan ar y tro.
Question
Mae beiciwr yn gadael ei gartref am 19:00 ac yn seiclo ar gyflymder cyson am 10 milltir, gan gyrraedd diwedd ei daith am 20:15. Mae’n aros yno am hanner awr ac yna’n dychwelyd adref am 21:30, gan seiclo ar gyflymder cyson.
- Mae adref am 19:00. Marcia bwynt ar 0 milltir, 19:00.
- Mae’n cyrraedd pen ei daith, sydd 10 milltir i ffwrdd, am 20:15. Marcia bwynt ar 10 milltir, 20:15. (Sylwa fod pob awr wedi ei rhannu’n 4 sgwâr – mae pob sgwâr yn cynrychioli 15 munud).
- Llunia linell syth rhwng y ddau bwynt hyn.
- Mae’n llonydd am 30 munud. Llunia linell lorweddol sy’n ddau sgwâr o hyd.
- Mae’n dychwelyd adref am 21:30. Marcia bwynt ar 0 milltir, 21:30.
- Gorffenna’r graff gyda llinell syth derfynol.
Question
Mae bws yn gwneud taith 90 km yn ôl i Abertawe. Am yr awr a hanner cyntaf, mae’n teithio ar gyflymder cyson o 40 km/h. Mae’n cael pynctiar yn un o’i holwynion felly mae’n rhaid iddyn nhw stopio am awr. Ar ôl trwsio’r pynctiar, mae’r bws yn parhau ar ei thaith ar gyflymder arafach o 20 km/h. Llunia graff teithio i gynrychioli’r daith hon.
- Plotia bwynt ar 0 awr, 90 km.
- Gan deithio ar 40 km/h, ar ôl un awr, fe fyddan nhw wedi teithio 40 km felly fe fyddan nhw 90 km – 40 km = 50 km o Abertawe. Plotia bwynt ar 1 awr, 50 km.
- Llunia linell rhwng y ddau bwynt hyn ac ymestyna hi fel ei bod yn gorffen uwchben \({1} \frac{1}{2}\) awr.
- Llunia linell lorweddol sy’n para am 1 awr i nodi’r cyfnod llonydd.
- O 30 km i ffwrdd, gan deithio ar 20 km/h, fe fyddan nhw 10 km i ffwrdd ar ôl un awr. Plotia bwynt ar \({3} \frac{1}{2}\) awr, 10 km.
- Llunia linell syth drwy’r ddau bwynt hyn ac ymestyna hi fel ei bod yn gorffen yn 0 km ar ôl 4 awr.