Dehongli fformiwlâu
fformiwlaHafaliad sy'n cael ei ysgrifennu at bwrpas, ee trawsnewid Farenheit i Celsius. Mae fformiwla bob amser yn wir beth bynnag yw'r gwerthoedd sy'n cael eu defnyddio. yw hafaliad sy’n dangos y berthynas rhwng newidynMaint sy'n gallu newid neu sy'n gallu cymryd gwerthoedd gwahanol. Mae newidyn hefyd yn cyfeirio at lythyren neu symbol sy'n cynrychioli maint o'r fath. . Gallai’r newidynnau hyn gynrychioli:
- cost llogi gweithiwr, yn seiliedig ar nifer yr oriau a weithiwyd
- cost llogi fan yn seiliedig ar nifer y dyddiau sydd ei hangen
Gellir mynegi fformiwla fel problem ar ffurf geiriau, neu fel hafaliadMae hafaliad yn cynnwys hafalnod. Mae hafaliadau ond yn wir ar gyfer gwerthoedd penodol. gan ddefnyddio geiriau neu lythrennau.
Enghraifft 1
Cost llogi fan = nifer y diwrnodau × £40 + £100
Mae’r fformiwla hon yn dy alluogi i gyfrifo cost llogi fan, yn seiliedig ar nifer y diwrnodau y bydd angen ei llogi.
Fel y gweli di, rhaid talu ffi sefydlog o £100, am faint bynnag o ddiwrnodau y bydd y fan yn cael ei llogi.
Am bob diwrnod mae’r fan yn cael ei llogi, mae £40 yn cael ei ychwanegu at y gost hon.
Enghraifft 2
Mae Gareth yn drydanwr. Mae’n codi ffi galwad o £45 yn ogystal â £15 am bob awr mae’n ei dreulio ar y gwaith dan sylw.
Gallwn ysgrifennu hyn ar ffurf hafaliad:
Cyflog = nifer yr oriau × £15 + £45.