Amnewid rhifau negatif
Gellir mynegi fformiwla ar ffurf llythrennau:
P = 3A + 2T
- mae 3A yn golygu 3 × A
- mae 2T yn golygu 2 × T
Enghraifft 1
Defnyddia’r fformiwla D = 2B + 4C i ganfod gwerth D pan fo B = 5 a C = 3.
1. Ysgrifenna ystyr 2B (2 × B) a 4C (4 × C): D = 2 × B + 4 × C.
2. Defnyddia’r gwerthoedd a roddir i ti, a’u hamnewid yn lle’r llythrennau:
D = 2 × 5 + 4 × 3.
3. Cofia CIRhLlAT (lluosi yn gyntaf yna adio):
D = 10 + 12.
D = 22.
Enghraifft 2
Defnyddia’r fformiwla Y = 2Z + 4W pan fo Z = 7 ac W = -2
1. Ysgrifenna ystyr 2Z a 4W:
Y = 2 × Z + 4 × W.
2. Defnyddia’r gwerthoedd a roddir i ti, a’u hamnewid yn lle’r llythrennau:
Y = 2 × 7 + 4 × -2.
3. Gwna’r symiau lluosi. Paid ag anghofio rheolau rhifau negatif, mae lluosi rhif positif â rhif negatif yn gwneud rhif negatif:
Y = 14 + -8.
4. Cwblha’r sym. Paid ag anghofio bod plws a minws yn gwneud minws:
Y = 14 - 8.
Y = 6.
Question
Os yw F = 8L - 5K, cyfrifa werth F pan fo L = 9 a K = -4.
F = 8 × L - 5 × K
F = 8 × 9 - 5 × -4
F = 72 + 20 (mae lluosi rhif negatif â rhif negatif yn gwneud rhif positif.)
F = 92
Enghraifft 3 - haen uwch
Defnyddia’r fformiwla Q = 2R – 3S i ganfod gwerth R pan fo Q = -30 a S = 4.
1. Gelli amnewid y llythrennau hysbys:
-30 = 2 × R - 3 × 4.
2. Lluosa:
-30 = 2 × R - 12.
3. Adia 12 at y ddwy ochr:
-30 + 12 = 2 × R.
-18 = 2 × R.
4. Rhanna’r ddwy ochr â 2:
-18 ÷ 2 = R.
R = -9.
Question
Os yw R = 2B + 4C, canfydda werth C pan fo R = 20 a B = -3.
20 = 2 × -3 + 4 × C
20 = -6 + 4 × C
20 + 6 = 4 × C
26 = 4 × C
26 ÷ 4 = C
6.5 = C
Enghraifft 4 - haen uwch
Mewn hafaliadau a fformiwlâu, mae rhannu fel arfer wedi ei fynegi fel ffracsiwn, er enghraifft:
\({S}=\frac{{2F}-{3H}}{4}\)
Question
Canfydda werth S pan fo F = 10 a H = -2.
\({S}=\frac{{{2}\times{10}}-{{3}\times{2}}}{4}\)
\({S}=\frac{{20}+{6}}{4}\)
\({S}=\frac{26}{4}\)
\({S}={6.5}\)
Question
Canfydda werth F pan fo H = -2 a S = -4.
F = -11
\({-4}=\frac{{{2}\times{F}}-{{3}\times{-2}}}{4}\)
\({-4}\times{4}~{=}~{2}\times{F}~{+}~{6}\)
\({-16}~{=}~{2}\times{F}~{+}~{6}\)
\({-16}~{-6}~{=}~{2}\times{F}\)
\({-22}~{=}~{2}\times{F}\)
\(\frac{-22}{2}=~F\)
\({-11}~{=}~{F}\)