FformiwlâuAmnewid

Rydyn ni’n defnyddio fformiwlâu i gyfrifo pethau fel cyflogau neu gostau. Bydd y costau hyn yn amrywio yn ôl ffactorau megis nifer yr oriau a weithiwyd neu nifer y dyddiau llog sydd eu hangen.

Part ofMathemateg RhifeddAlgebra

Amnewid

Amnewid yw’r broses o roi rhifau yn lle geiriau neu lythrennau mewn hafaliad.

Bydd yn rhaid i ti fod yn gyfarwydd â threfn gweithrediadau threfn gweithrediadau CIRhLlAT (Cromfachau, Indecsau, Rhannu, Lluosi, Adio, Tynnu).

Enghraifft 1

Cost llogi fan = nifer y diwrnodau × £40 + £100

Os bydd y fan yn cael ei llogi am 3 diwrnod, faint y bydd hyn yn ei gostio?

1. Rho’r rhif 3 yn lle nifer y diwrnodau:

Cost = 3 × £40 + £100.

2. Paid ag anghofio CIRhLlAT, rhaid i ti luosi yn gyntaf ac yna adio.

Cost = £120 + £100.

Cost = £220.

Question

Cost llogi fan = nifer y diwrnodau × £40 + £100.

Cyfrifa’r gost os bydd y fan yn cael ei llogi am 6 diwrnod.

Enghraifft 2

Mae cyflog plymwr yn cael ei gyfrifo trwy ddefnyddio’r fformiwla:

Plymwr ag offer gyda’r testun ‘Cyflog = oriau x £15 + £45’

Cyflog = nifer yr oriau × £15 + £45.

Os yw’n ennill £105, am faint o oriau yr oedd yn gweithio?

1. Gelli amnewid £105 yn lle cyflog:

£105 = nifer yr oriau × £15 + £45.

2. Mae angen i ti gael ‘nifer yr oriau’ ar ei ben ei hun. Efallai yr hoffet ti adolygu datrys hafaliadau.

Dylet gychwyn trwy dynnu £45 o’r ddwy ochr:

£105 - £45 = nifer yr oriau × £15.

£60 = nifer yr oriau × £15.

3.Yna rhanna’r ddwy ochr â £15:

£60 ÷ £15 = nifer yr oriau.

Nifer yr oriau = 4.

Question

Cyflog = nifer yr oriau × £15 + £45.

Cyfrifa nifer yr oriau a weithiwyd os yw’r cyflog yn £150.