Graffiau trawsnewid
Mae graff trawsnewid yn cael ei ddefnyddio i newid o un uned i un arall. Gallai hyn olygu newid rhwng milltiroedd a chilometrau, newid punnoedd i arian tramor neu ddangos cost taith yn seiliedig ar nifer y milltiroedd a deithiwyd.
Enghraifft 1
Image caption, Graff trawsnewid rhwng ffranciau a phunnoedd
Cyn i Ffrainc ymuno â’r Ewro, ffranciau Ffrengig oedd eu harian. Roedd un bunt Brydeinig tua’r un gwerth â 10 ffranc. Gan ddefnyddio hyn, gallwn lunio graff trawsnewid rhwng punnoedd a ffranciau
Image caption, Graff trawsnewid rhwng ffranciau a phunnoedd
Mae arnon ni angen tri phwynt i’w plotio. £0 = 0 ffranc £1 = 10 ffranc £2 = 20 ffranc
Image caption, Graff trawsnewid rhwng ffranciau a phunnoedd
Llunia linell drwy’r pwyntiau hyn a gwna’n siŵr dy fod yn ei hymestyn fel ei bod yn mynd dros y graff cyfan
Image caption, Graff trawsnewid rhwng ffranciau a phunnoedd
I drawsnewid £3 i ffranciau, cychwynna ar 3 ar yr echelin lorweddol, gan mai dyma lle mae’r punnoedd wedi eu hysgrifennu, yna cer i fyny’n fertigol nes byddi’n cyrraedd y llinell
Image caption, Graff trawsnewid rhwng ffranciau a phunnoedd
O’r llinell, darllena’n llorweddol nes byddi’n cyrraedd yr echelin sy’n dangos y ffranciau. Gallwn nawr weld bod £3 = 30 ffranc
Image caption, Graff trawsnewid rhwng ffranciau a phunnoedd
I drawsnewid 50 ffranc i bunnoedd, cychwynna ar 50 ar yr echelin sy’n dangos ffranciau a cher ar hyd y graff yn llorweddol nes byddi’n taro’r llinell
Image caption, Graff trawsnewid rhwng ffranciau a phunnoedd
Nawr cer i lawr yn fertigol i weld bod 50 ffranc = £5
Image caption, Graff trawsnewid rhwng ffranciau a phunnoedd
Os ydyn ni eisiau trawsnewid gwerth sydd heb ei ddangos ar y graff, er enghraifft £8, bydd angen i ni ddefnyddio gwerth arall i’n helpu. Drwy ganfod bod £4 = 40 ffranc yn gyntaf, gallwn ddyblu hwn i ganfod bod £8 = 80 ffranc
1 of 8
Bydd yn ofalus gan fod y dull hwn ond yn gweithio os bydd y graff yn pasio drwy’r pwynt (\({0} \text{,} {~0}\)).
Enghraifft 2
Mae Tacsis Tony yn cyfrifo cost taith trwy ddefnyddio’r graff trawsnewid canlynol.
Fel y gweli o’r graff, mae 0 milltir = £2. Mae hon yn gyfradd sefydlog sy’n cael ei hychwanegu at unrhyw daith, beth bynnag yw’r pellter a deithiwyd.
Question
Faint fyddai taith o 7 milltir yn ei gostio?
Pe bai taith yn costio £8, faint o filltiroedd fyddet ti’n disgwyl y byddet ti wedi ei deithio?
Dylet ddangos dy ateb ar y graff.
7 milltir = £5.50
£8 = 12 milltir
Gan nad yw’r graff yn pasio drwy (0,0), er mwyn trawsnewid gwerth sydd y tu hwnt i’r raddfa ar y graff, rhaid i ni ddilyn dull gwahanol.
Efallai ei bod yn bosib ymestyn y graff ymhellach.
Gallwn weld o’r graff estynedig hwn mai £10 fyddai cost taith sy’n 16 milltir o hyd.
Os nad yw hyn yn bosib, bydd rhaid i ni wneud ychydig o waith cyfrifo.
Question
Cyfrifa gost taith sy’n 30 milltir o hyd.
£17.
- Rydyn ni’n gwybod bod taith o 0 milltir yn costio £2.
- Rydyn ni’n gwybod bod taith o 10 milltir yn costio £7.
- Felly mae pob 10 milltir a deithiwyd yn costio £7 - £2 = £5.
- 30 milltir = 10 milltir × 3, felly cost 30 milltir = £5 × 3 = £15
- Adia’r gyfradd sefydlog ar gyfer pob taith, sef £2: £15 + £2 = £17.
Question
Cyfrifa’r pellter a deithiwyd pan fo’r tacsi’n costio £15.
26 milltir.
O’r graff, gwelwn fod £2 = 0 milltir a bod £3 = 2 filltir.
Ar ôl y gyfradd sefydlog o £2, mae hyn yn golygu bod £1 yn cael ei adio am bob 2 filltir.
Ar gyfer taith sy’n costio £15, gallwn dynnu’r gyfradd sefydlog o £2 i weld bod £13 wedi ei adio ar gyfer y pellter a deithiwyd.
Gan fod pob £1 yn cynrychioli 2 filltir: £13 = 13 × 2 = 26 milltir.