GraffiauDehongli graffiau

Gallwn ddefnyddio graffiau er mwyn cyflwyno data’n eglur, ac i’n cynorthwyo wrth wneud gwaith cyfrifo, er enghraifft ar ffurf graffiau trawsnewid a graffiau teithio. Gall graffiau fod yn gamarweiniol.

Part ofMathemateg RhifeddAlgebra

Dehongli graffiau

Pan fyddi’n darllen a dehongli graffiau, mae’n bwysig dy fod yn ystyried yn ofalus beth mae pob echelin yn ei gynrychioli. Weithiau efallai y bydd gofyn i ti ddilyn dull cyffredinol gan na fyddi bob amser yn cael gwerthoedd penodol i weithio gyda nhw.

Question

Mae’r siapiau canlynol yn cael eu llenwi â dŵr, lle mae’r dŵr yn cael ei arllwys ar gyfradd gyson. Mae’r graffiau’n modelu uchder y dŵr yn erbyn amser. Penderfyna pa graff sy’n cyfateb yn gywir i bob siâp.

Pum siâp â labeli 1 i 5. Silindr yw 1, powlen siâp afreolaidd yw 2, côn yw 3, ciwb yw 4, prism heptagonal yw 5
3 graff â labeli A, B, a C. Graff llinell syth yw graff A. Cromlin geugrwm i lawr yw Graff B. Cromlin geugrwm i fyny yw Graff C i ddechrau yna mae'n newid hanner ffordd i gromlin geugrwm i lawr

Question

Mewn cwmni, mae gweithwyr yn derbyn £200 o gomisiwn hyd yn oed os nad ydyn nhw’n gwerthu unrhyw beth, yn ogystal ag 1% am bob gwerthiant o dan £20,000 a 4% am bob gwerthiant dros £20,000. Pa graff sy’n cynrychioli’r sefyllfa hon orau?

3 graff â labeli A, B, a C. Mae gan bob echelin x label 'gwerthiant', mae gan bob echelin y label 'comisiwn'. Mae pob graff yn graff llinell syth â gwyriad, naill ai i fyny neu i lawr, yn y canol