Hafaliadau a fformiwlâuDatrys hafaliadau llinol eraill
Dysga sut i ddatrys, ffurfio a thrin mynegiadau algebraidd gan gynnwys symleiddio ac ad-drefnu hafaliadau. Dysga sut i ddatrys drwy ddefnyddio dull profi a gwella.
Beth os oes gennyn ni hafaliad megis \({p}\) + 3 = 11? Y tro hwn, er mwyn cael \({p}\) ar ei phen ei hun, byddai angen i ni dynnu 3 o ddwy ochr yr hafaliad. Byddai hyn yn ein gadael gyda \({p}\) = 8.
Os bydden ni’n gwybod bod \({L}\) + 9 = 14 bydden ni’n tynnu 9 o’r ddwy ochr gan adael \({L}\) = 5.
Os byddai gennyn ni \({Q}\) + 3 = 1 , bydden ni’n tynnu 3 o’r ddwy ochr, gan adael \({Q}\) = –2.
Os byddai gennyn ni \({S}\) + 12 = –4 bydden ni’n tynnu 12 o’r ddwy ochr, gan adael \({S}\) = –16.
Yn yr un modd, os byddai gennyn ni hafaliad megis \({R}\) – 12 = 3, rhaid i ni nawr adio 12 at y ddwy ochr er mwyn cael \({R}\) ar ei phen ei hun ar ochr chwith yr hafaliad. Byddai hyn yn rhoi \({R}\) = 15.
Yn aml iawn, rhaid i ni gwblhau mwy nag un cam wrth ddatrys hafaliadau, ond mae’r rheol hon yn dal i fod yn berthnasol – beth bynnag y byddi’n ei wneud i un ochr yr hafaliad, rhaid i ti wneud yr un peth i’r ochr arall.
Er enghraifft, gad i ni edrych ar 2\({y}\) + 6 = 12. Rhaid i ni ddilyn dau gam - rhaid i ni rannu er mwyn cael gwared â’r 2 o flaen y \({z}\) ac yna tynnu i gael gwared â’r 6.
Mae disgyblion yn aml yn gwneud y camgymeriad o rannu’r ddwy ochr â 2 ac ysgrifennu:
\({y}\) + 6 = 6
Nid yw hyn yn gywir. Wrth rannu’r hafaliad â 2, dylai roi:
\({y}\) + 3 = 6
Mae hwn yn wahaniaeth pwysig iawn – pan fyddi’n rhannu un ochr yr hafaliad, rhaid i ti rannu pob term ar yr ochr honno o’r hafaliad. Dyma pam mae disgyblion yn aml yn cael eu hannog i wneud y gwaith adio neu dynnu yn gyntaf.
Gad i ni ddatrys yr hafaliad:
2\({y}\) + 6 = 12
Drwy dynnu 6 o’r ddwy ochr cawn:
2\({y}\) = 6
Drwy rannu dwy ochr yr hafaliad â 2, cawn:
\({y}\) = 3
Enghraifft
Datrysa \(\frac{x}{3}~–~{2}={4}\)
Ateb
Drwy adio 2 at y ddwy ochr cawn:
\(\frac{x}{3}={6}\)
Drwy luosi’r ddwy ochr â 3 cawn:
\({x}={18}\)
Question
Datrysa \(\frac{3y}{4}={9}\)
Wrth ddatrys yr hafaliad hwn, rhaid i ni rannu â 3 a lluosi â 4. Nid oes ots ym mha drefn.