Ymarfer dealltwriaeth o Theatr Gerdd
Gwylia’r clip, ateba’r cwestiynau a chymhara dy atebion â’r atebion enghreifftiol.
Mae’r clip hwn o Pethe, rhaglen gelfyddydau S4C, yn dangos yr hyn sy’n digwydd y tu ôl i’r llwyfan yng nghynhyrchiad y Theatr Genedlaethol o Deffro’r Gwanwyn, yr addasiad Cymraeg o Frühlings Erwachen (Spring Awakening yn Saesneg) gan Frank Wedekind.
Question
Ble a phryd y llwyfannwyd y cynhyrchiad cyntaf o Frühlings Erwachen?
Llwyfannwyd y cynhyrchiad cyntaf ym 1906 yn yr Almaen.
Question
Beth ydy prif thema’r ddrama?
Mae’r ddrama’n ymchwilio i rywioldeb yn yr arddegau a’r gwahanol effeithiau y gall glasoed ei gael ar bobl ifanc.
Question
Pa fath o set sy’n cael ei defnyddio ar y llwyfan?
Mae’r set yn gymharol syml gydag ychydig iawn o ddodrefn - mae’r athro’n eistedd y tu ôl i ddesg, gyda rhai rheiliau pren yn y cefndir, a chaiff goleuo cynnes a chynnil ei ddefnyddio.
Question
Faint o berfformwyr sydd â rhan yn y cynhyrchiad?
Ceir 13 o berfformwyr yn y gwaith.
Question
Pam y cafodd y ddrama wreiddiol ei hatal o’r theatr?
Penderfynwyd ei bod yn rhy ddadleuol ar gyfer y cyfnod oherwydd bod y ddrama’n ymwneud â rhyw yn yr arddegau a phynciau tabŵ megis llosgachY drosedd o gael cyfathrach rywiol gyda rhiant, plentyn, brawd neu chwaer. Cyfathrach rywiol rhwng pobl sy'n perthyn yn rhy agos i'w gilydd i briodi..
Question
Pa gyferbyniad mae’r awdur Dafydd James yn sôn amdano yn ei ddisgrifiad o arddull y gerddoriaeth o’i gymharu â safon y Gymraeg a ddefnyddir yn y cynhyrchiad?
Mae Dafydd James yn disgrifio arddull y gerddoriaeth fel ‘roc cyfoes’ ac arddull yr iaith yn farddonol ac yn Gymraeg mwy ffurfiol sy’n creu cyferbyniad diddorol.
Question
Beth ydy demograffeg y gynulleidfa mae’r ddrama wedi ei hanelu ati?
Bydd y ddrama’n apelio at gynulleidfa iau gan ei bod yn ymwneud â phobl ifanc a’u problemau wrth iddyn nhw dyfu’n oedolion. Nid ydy oedolion yn cael eu portreadu’n ffafriol felly efallai na fyddai mor boblogaidd gyda chynulleidfa hŷn.
Question
Beth ydy neges y ddrama ym marn y cyfarwyddwr?
Mae’r cyfarwyddwr, Elen Bowman, yn meddwl bod y ddrama’n pwysleisio bod ganddon ni gyfrifoldeb i bobl ifanc ac na ddylen ni eu gorthrymu.