Cefndir
Pan ofynnwyd iddo sut i greu theatr i blant, atebodd Konstantin StanislavskiActor a chyfarwyddwr dylanwadol o Rwsia (1863-1938) a oedd yn credu y dylai perfformiadau theatrig fod mor realistig â phosib. : Yr un fath ag i oedolion, ond yn well.
Ar ôl yr Ail Ryfel Byd daeth pobl yn ymwybodol y gallai technegau drama neu theatr fod yn ddefnyddiol fel ffordd o ddysgu’n effeithiol mewn ysgolion. Gelwir hyn yn Theatr Mewn Addysg. Un ymarferwrRhywun sy'n arfer neu sydd wedi ysgrifennu am elfennau theatrig ac sydd â ffurf theatrig ddiffiniadwy yn perthyn i'w theatr. cynnar oedd Brian Way, a sefydlodd y Theatre Centre ym 1953, ac a gafodd ddylanwad ar y tîm, a oedd yn cynnwys Gordon Vallins a aeth ati i sefydlu Theatr Mewn Addysg yn Theatre Belgrade, Coventry ym 1965. Roedd eu gwaith mor ddylanwadol nes iddo ledaenu yn genedlaethol. Yng Nghymru ceir nifer o gwmnïau sydd wedi gwneud cyfraniad gwerthfawr at y sector.
Daeth y syniad o berfformiad effaith uchel wedi'i dargedu'n arbennig at gynulleidfa ysgol, a oedd yn ddigon bach i feithrin cyfranogiad drwy waith rôl a thrafod, yn boblogaidd tu hwnt. Byddai deunyddiau ac adnoddau'n cael eu darparu i gefnogi'r prosiectau ynghyd â chefnogaeth neu hyfforddiant i athrawon y myfyrwyr.

Yn y gorffennol pan oedd addysg yn cael ei threfnu'n ganolog byddai prosiect Theatr Mewn Addysg yn cael ei gyllido'n ganolog fwy na thebyg. Y dyddiau hyn mae cwmnïau yn gorfod edrych am arian gan ysgolion unigol felly mae’n rhaid iddyn nhw ddarparu yr hyn mae’r ysgolion ei eisiau.
Yn ddiweddar, mae’r teitl Theatr Mewn Addysg wedi ei ddisodli gan y byd celfyddydol Cymreig a defnyddiwyd ‘Theatr i bobl ifanc’ i labelu’r math hwn o waith theatrig yng Nghymru. I osgoi dryswch, fe wnawn ni barhau i ddefnyddio’r term Theatr Mewn Addysg yn y cyd-destun hwn.