Theatr Mewn AddysgGwerthuso Theatr Mewn Addysg

Mae Theatr Mewn Addysg yn cael ei defnyddio i gymell dysgu effeithiol mewn ysgolion. Mae angen ystyried oedran a gofynion y gynulleidfa yn ofalus er mwyn eu diddori a chyfleu neges.

Part ofDramaArddulliau, genres ac ymarferwyr

Gwerthuso Theatr Mewn Addysg

Os byddi di’n gwerthuso neu'n ysgrifennu am gynhyrchiad fel hwn, bydd y rhan fwyaf o'r elfennau pwysig yr un fath ag ar gyfer unrhyw adolygiad neu waith ymarferol. Y gwahaniaeth arwyddocaol ydy y bydd gen ti ffon fesur ddefnyddiol i fesur llwyddiant. A lwyddodd y gynulleidfa i ddeall y bwriad neu a wnaeth ofyn y cwestiynau roeddet ti am iddi eu gofyn? Oedd pobl yn edrych yn ddryslyd ac yn waeth na dim, heb unrhyw ddiddordeb?

Roedd Ma’ Bili’n Bwrw’r Bronco, cynhyrchiad ar y cyd rhwng Canolfan Mileniwm Cymru a Theatr na nÓg, yn edrych ar un haf ym mywydau pump o fechgyn 10 mlwydd oed ar ystâd yn Abertawe ym 1983. Mae’n haf o chwarae a’r bechgyn yn canolbwyntio ar eu hobsesiwn newydd gyda ‘bwrw’r bronco’, sef neidio oddi ar siglen. Ond mae yna drasiedi sy’n newid bywydau’r bechgyn am byth. Yn sicr, dyma stori ddylai gydio yn nychymyg plant o’r un oed â’r cymeriadau.

Actor ifanc yn hongian o ffram swing i hyrwyddo Ma' Bili'n Bwrw'r Bronco
Image caption,
Llun i hyrwyddo Ma' Bili'n Bwrw'r Bronco, Canolfan Mileniwm Cymru a Theatr na nÓg, 2012 LLUN: Farrows Creative

Ysgrifennu adolygiad o Theatr Mewn Addysg

Fel gydag unrhyw adolygiad rhaid i ti ystyried pwysigrwydd y cyfarwyddo, yr elfennau cynllunio a’r actio wrth greu cynhyrchiad llwyddiannus. Darllena Ysgrifennu a gwerthuso theatr i ddysgu mwy.

Dylet ti ystyried hefyd pa mor llwyddiannus oedd y cynhyrchiad o ran cyrraedd ei nod o addysgu ac ysgogi trafodaeth neu weithgaredd. Gall cynulleidfaoedd iau fod yn heriol o onest. Os nad ydy rhywbeth yn cadw eu diddordeb, byddan nhw'n dangos hynny! Yn fwy nag unrhyw fath arall o waith, rhaid i Theatr Mewn Addysg fod yn briodol i'r oedran a rhaid i'r cynnwys fod yn briodol. Gall monitro ymateb y gynulleidfa fod yn ffordd ragorol o fesur llwyddiant.

Yn aml gyda Theatr Mewn Addysg ceir trafodaeth neu weithdy ar ôl y sioe. Gwna nodyn o'r ffordd mae pobl ifanc wedi creu cysylltiad â'r themâu neu'r cymeriadau er mwyn gwerthuso a ydy cynhyrchiad wedi cyflawni ei nod addysgol.

Dau actor ifanc yn tynnu yr un llyfr i hyrwyddo cynhyrchiad Here Be Monsters
Image caption,
Delwedd i hyrwyddo cynhyrchiad Here Be Monsters, Theatr Iolo, 2013 LLUN: Theatr Iolo

Casglodd Theatr Iolo sylwadau’r gynulleidfa ar ôl perfformio’r cynhyrchiad, Here Be Monsters. Mae’n bwysig nodi’r sylwadau positif a negatif am y perfformiad.