Theatr Mewn AddysgGweithio gyda chynulleidfa hŷn

Mae Theatr Mewn Addysg yn cael ei defnyddio i gymell dysgu effeithiol mewn ysgolion. Mae angen ystyried oedran a gofynion y gynulleidfa yn ofalus er mwyn eu diddori a chyfleu neges.

Part ofDramaArddulliau, genres ac ymarferwyr

Gweithio gyda chynulleidfa hŷn

Os wyt ti'n perfformio o flaen cynulleidfa hŷn, gallet ti gyflwyno darn am yr Ail Ryfel Byd. Gallai'r thema hon hefyd weithio gyda grŵp o fyfyrwyr Blwyddyn 10 sy'n astudio'r cyfnod ar gyfer eu gwaith Hanes, ac am gael cynnwys a fyddai'n eu helpu gyda'u hastudiaethau. Byddai’n bwysig felly ymchwilio i gefndir hanesyddol y cyflwyniad fel ei fod yn gywir ac yn ysgogiad i wneud gwaith pellach ar y pwnc. Gallai'r nodiadau yn yr adnoddau eu cyfeirio at safle gwe megis safle Hanes y BBC i wneud gwaith ymchwil.

Gallai’r cynhyrchiad fod wedi ei anelu at grŵp o bobl hŷn a fu'n byw drwy'r rhyfel. Byddai rhywbeth o ddiddordeb lleol yn gweithio'n dda gan y gallai'r ddrama wahodd y gynulleidfa i ailymweld â'u gorffennol. Pe baet ti yn Abertawe, er enghraifft, gallet ti ymchwilio a chyflwyno darn am fomiau'r yn y ddinas ym 1941. Cofia y gallai fod wedi bod yn boenus iawn i unigolion penodol felly gallet ti ganolbwyntio ar yr ysbryd cymunedol. Mae bod yn sensitif yn hanfodol wrth gynllunio unrhyw waith a allai ymdrin â phrofiadau personol aelodau o’r gynulleidfa.

Tri actor o gast The Thompsons' War yn edrych yn ofnus a dau ohonynt yn dal mwgwd nwy
Image caption,
Mae cynhyrchiad yr Hobgoblin Theatre Company o The Thompsons' War wedi ei osod ym 1940 ac mae'n edrych ar sut yr effeithiodd yr Ail Ryfel Byd ar fywydau pobl LLUN: Hobgoblin Theatre Company/Brendan Foster Photography

Cofia fod mathau eraill o ddrama a theatr sy'n defnyddio egwyddorion Theatr Mewn Addysg hefyd, ee Theatr Gymunedol, Theatr Carchardai a Therapi Drama.