Theatr Mewn AddysgDefnyddio Theatr Mewn Addysg

Mae Theatr Mewn Addysg yn cael ei defnyddio i gymell dysgu effeithiol mewn ysgolion. Mae angen ystyried oedran a gofynion y gynulleidfa yn ofalus er mwyn eu diddori a chyfleu neges.

Part ofDramaArddulliau, genres ac ymarferwyr

Defnyddio Theatr Mewn Addysg

Mae’n bosib defnyddio Theatr Mewn Addysg i greu gwahanol fathau o gynyrchiadau:

  • Perfformiad wedi ei gynllunio i ysgogi ymateb a chyfranogiad gan gynulleidfa fach, efallai drwy a thrafod. Gallai adnoddau ychwanegol gefnogi'r gwaith.
  • Fel uchod ond yn benodol yn targedu maes ar gyfer grŵp blwyddyn penodol yng nghwricwlwm ABICh (Addysg Bersonol, Iechyd a Chymdeithasol) yr ysgol.
  • Drama wedi ei chynllunio ar gyfer cynulleidfa ifanc, efallai'n seiliedig ar stori draddodiadol ac yn caniatáu amrywiaeth o weithgareddau dilynol os dymunir hynny.
  • Gweithgareddau i blant ifanc iawn, wedi'u cysylltu drwy stori gyda chyfleoedd ar gyfer cyfranogi.
  • Gweithgareddau wedi eu dramateiddio i grŵp oedolion gydag anghenion penodol, ee paratoi ar gyfer cyflogaeth neu ddysgu sgiliau rhianta er enghraifft.
  • Drama wedi ei chynllunio ar gyfer cynulleidfa oedrannus, ee mewn cartref gofal, efallai'n tynnu ar atgofion a chymell cyfranogiad gweithredol yn y modd hwn.
Ceri Elen a Carwyn Jones yn Dim Diolch gan Iola Ynyr, Cwmni'r Frân Wen
Image caption,
Mae Dim Diolch gan Cwmni'r Frân Wen yn ddrama am fywyd George Price, y dyn greodd yr hafaliad sy'n mesur ein gallu i ddangos caredigrwydd tuag at eraill LLUN: Keith Morris