Theatr Mewn AddysgCynllunio project

Mae Theatr Mewn Addysg yn cael ei defnyddio i gymell dysgu effeithiol mewn ysgolion. Mae angen ystyried oedran a gofynion y gynulleidfa yn ofalus er mwyn eu diddori a chyfleu neges.

Part ofDramaArddulliau, genres ac ymarferwyr

Cynllunio project

Wrth gynllunio darn Theatr Mewn Addysg mae’n rhaid i gwmnïau ystyried:

  • Oed a maint y gynulleidfa. Cofia bod angen i’r perfformiad fod yn addas i'r gynulleidfa.
  • Y lleoliad, ei faint a'r cyfleusterau megis goleuo ac a oes cyfyngiadau penodol, ee efallai na fyddan nhw’n cael gwneud dawnsio tap gan y byddai hynny'n niweidio'r llawr.
  • Materion Iechyd a Diogelwch. Mae'n debyg y bydd angen iddyn nhw gwblhau gwaith papur ar gyfer hyn. Gallai gwmpasu unrhyw beth o ar gyfer y daith i’r lleoliad i wirio nad oes neb yn y gynulleidfa'n dioddef o os ydyn nhw’n bwriadu defnyddio iâ sych.
  • Amcanion Addysgu a Dysgu. Beth mae gofyn iddyn nhw ei wneud a sut maen nhw am gyflenwi'r hyn sydd ei angen.

Paratoi’r perfformiad

Os byddi di’n paratoi'r perfformiad Theatr Mewn Addysg ar gyfer asesiad, gwna'n siŵr dy fod yn ymdrin â'r meini prawf penodol sydd angen i ti eu bodloni. Bydd angen i ti dargedu anghenion penodol y gynulleidfa mewn modd gweithredol, cyfranogol.

Pedwar actor ifanc mewn gwisg ysgol ar lefelau llwyfan gwahanol fel rhan o gynhyrchiad Arad Goch, SXTO
Image caption,
Roedd cynhyrchiad Arad Goch, SXTO yn benllanw project tair blynedd ac yn seiliedig ar syniadau pobl ifanc LLUN: Arad Goch/Keith Morris

Cafodd cynhyrchiad Cwmni Theatr Arad Goch, SXTO, gan Bethan Gwanas, ei ddatblygu dros gyfnod o dair blynedd. Ar ôl iddyn nhw ei gynhyrchu ar ffurf Theatr Fforwm, perfformiodd y cwmni bedair golygfa i wahanol grwpiau o bobl ifanc. Defnyddion nhw eu hawgrymiadau i’w datblygu’n ddrama fyddai o ddiddordeb iddyn nhw. Roedd y thema’n apelio at yr ystod oedran hwn gan ei fod yn ymdrin â thestun addas sef canlyniadau tecstio anweddus. Dyma enghraifft o waith paratoi dwys.

Does dim disgwyl i ti gymryd tair blynedd i baratoi ond mae’n bwysig fod gen ti fframwaith clir ar gyfer dy waith. Ar ôl i ti sefydlu fframwaith, byddi di’n barod i ddatblygu darn dyfeisiedig. Edrycha ar Creu a llwyfannu perfformiad dyfeisiedig i ddysgu mwy. Cofia, er mai addysgu’r gynulleidfa ydy dy nod, byddi di’n methu’n llwyr os byddi di’n ei diflasu. Enw addas arall ar Theatr Mewn Addysg fyddai addysg mewn theatr. I addysgu, rhaid i ti ennyn diddordeb dy gynulleidfa a'i herio.