Theatr Mewn AddysgPrif elfennau Theatr Mewn Addysg

Mae Theatr Mewn Addysg yn cael ei defnyddio i gymell dysgu effeithiol mewn ysgolion. Mae angen ystyried oedran a gofynion y gynulleidfa yn ofalus er mwyn eu diddori a chyfleu neges.

Part ofDramaArddulliau, genres ac ymarferwyr

Prif elfennau Theatr Mewn Addysg

Mae'n bwysig i ti gofio'r nodweddion canlynol sy'n perthyn i Theatr Mewn Addysg:

  • nod ac amcan addysgol clir drwyddi draw
  • cast bach felly rhaid i actorion fod yn hyblyg ac yn aml rhaid iddyn nhw chwarae rhannau niferus
  • cyllideb fach felly yn aml bydd actorion yn chwarae offerynnau hefyd
  • cynllun syml a chynrychioliadol er mwyn gallu cludo'r cynhyrchiad o le i le
  • trafod pynciau o wahanol safbwyntiau, er mwyn i ni allu gweld effaith gweithred ar amrywiaeth o bobl
  • rhywfaint o gyfranogiad gan y gynulleidfa
  • anaml y bydd y cynhyrchiad yn gwbl naturiolaidd oherwydd y defnydd o siarad uniongyrchol neu adrodd stori i ennyn diddordeb y gynulleidfa
  • gwisgoedd syml a chynrychioliadol, yn enwedig os oes angen i'r actorion chwarae nifer o rannau
  • gall gynnwys ffeithiau a ffigurau i addysgu’r gynulleidfa
  • gall fod â neges gref neu foeswers yn rhedeg drwyddi
Actores yn chwarae rhan Gretel yn Grimm Tales, Theatr Iolo
Image caption,
Actores yn chwarae rhan Gretel yn Grimm Tales, Theatr Iolo LLUN: Theatr Iolo