Syniadau ar gyfer gwaith Theatr Mewn Addysg
Gallet ti weithio ar gyflwyniad yn seiliedig ar ddrama Sera Moore Williams, Crash. Ysgrifennwyd y ddrama hon yn arbennig i bobl ifanc a gweithiodd yr awdur gyda nhw i sicrhau y byddai'r ddrama yn siarad â'u cyfoedion. Mae'r ddrama'n archwilio themâu megis gwefr-yrru, chwilio am gynnwrf, pwysau gan gymheiriaid, trais, digartrefedd, alcohol a chyffuriau. Y brif thema ydy ymdrin â glaslencyndod a'r poen meddwl y mae'n ei roi i gynifer o bobl ifanc.
Fel arfer byddai cynhyrchiad Theatr Mewn Addysg yn seiliedig ar y ddrama hon yn rhagdybio y byddai'r gynulleidfa wedi astudio'r ddrama neu ar fin gwneud hynny. Byddai adnoddau'r cynhyrchiad - boed yn daflenni i athrawon neu nodiadau rhaglen - yn atgyfnerthu themâu pwysig y ddrama. Un ffordd y gallet ti ennyn diddordeb y gynulleidfa fyddai rhewi neu ailddangos rhannau o'r ddrama i dynnu sylw at bobl yn gwneud camgymeriadau a lle maen nhw'n dysgu o'r camgymeriadau hynny.

Ennyn diddordeb cynulleidfa ifanc
Mae cysyniad y cyrchYmdrech hir ac anodd i wneud neu ddod o hyd i rywbeth. yn un y bydd pawb yn ei adnabod ac mae'n nodwedd gyfarwydd o straeon am arwyr a straeon tylwyth teg. Mae angen achub rhywun, rhaid trechu drygioni neu mae yna drysor i’w ddarganfod. Os wyt ti am gynnwys grŵp mawr o blant mae'n well cael nifer o gyrchoedd bach iddyn nhw gael bod yn rhan ohonyn nhw, gan arwain at y llwyddiant terfynol. Gallet ti osod her yn cynnwys bondiau rhif i blant pump oed eu datrys. Mae'n syniad da cynnwys ychydig o waith celf gyda'r grŵp oedran hwn, os bydd maint y grŵp ac amser yn caniatáu. Byddai gwaith celf yn cynnal diddordeb ac yn eu helpu i weld lle mae eu dychymyg yn eu harwain.
Stori dylwyth teg fodern i blant 7 i 11 oed
Bydd plant yn yr ystod oedran hwn yn gyfarwydd â'r rhan fwyaf o'r straeon tylwyth teg mwyaf adnabyddus a bydd llawer ohonyn nhw wedi dod ar draws y syniad o addasu. Dy dasg di fydd mynd â nhw ychydig ymhellach gyda'r stori er mwyn iddyn nhw weld ei strwythur a'r syniadau mae'n eu cynnwys.
Mae Sinderela er enghraifft yn stori lle mae’r rhai sy’n bwlio yn cael eu cosbi. Mae'n hawdd ei throsglwyddo, ac felly hefyd y syniad o 'ddawns' neu barti. Efallai fod y tywysog wedi tynnu llun o Sinderela ar ei ffôn symudol ac yn ceisio dod o hyd iddi ar y rhwydweithiau cymdeithasol. Gallai'r chwiorydd hyll esgus ar lein mai nhw ydy Sinderela a gallai hyn fod yn rhybudd i blant y gall rhyngweithio ar lein fod yn beryglus