Theatr GerddDatblygiad Theatr Gerdd

Mae Theatr Gerdd yn defnyddio caneuon, dawns a deialog i adrodd stori. Mae hanes hir i'r genre poblogaidd hwn ac mae yna rolau arbenigol sydd ynghlwm wrth lwyfannu drama gerdd fodern.

Part ofDramaArddulliau, genres ac ymarferwyr

Datblygiad Theatr Gerdd

Wrth i ddramâu cerdd ddatblygu, daeth y straeon yn gryfach gyda'r caneuon yn cael eu hintegreiddio'n fwy i'r plot. Drama gerdd llyfr (Book Musical) ydy gwaith sy'n cynnwys drama sydd wedi ei datblygu'n dda ac sy'n llwyddo i ysgogi emosiynau eraill ar wahân i chwerthin.

Fel arfer bydd drama gerdd llyfr yn cynnwys tair rhan:

  • y llyfr (sef y sgript, sy’n cynnwys y ddeialog a’r ddrama)
  • y gerddoriaeth (wedi ei threfnu ar gyfer nifer o offerynnau o fewn band neu gerddorfa)
  • y geiriau (lle mae geiriau’r caneuon wedi eu hysgrifennu o dan ran y piano)

Gyda’i gilydd mae’r geiriau a rhan y piano yn cael eu galw’n sgôr. Mae tîm creadigol mawr yn cydweithio i ddod â drama gerdd llyfr i’r llwyfan. Mae’r gwahanol rolau’n bwysig iawn.

Cyfansoddwyr cynnar

O ddechrau i ganol y 1900au, roedd nifer fach o gyfansoddwyr ac awduron caneuon yn amlwg iawn ym maes Theatr Gerdd. Roedd y gwaith yn gyfrwng ar gyfer eu talentau cyfansoddi caneuon ac yn gyfle i arddangos doniau sêr mawr yr oes. Cafodd llawer o'r rhain eu troi'n ffilmiau. Roedd y straeon yn llai pwysig na'r caneuon a'r dawnsfeydd ysblennydd. Cynhyrchodd awduron caneuon amlwg y cyfnod nifer fawr iawn o ddramâu cerdd. Mae llawer o'r caneuon oedd ynddyn nhw mor adnabyddus fel eu bod yn cael eu galw'n ganeuon 'safonol' ac maen nhw'n dal i fod yn boblogaidd hyd heddiw. Mae enghreifftiau'n cynnwys caneuon gan Cole Porter, Irving Berlin a George ac Ira Gershwin.

Mae'r rhaglen radio Saesneg hon yn edrych ar y stori y tu ôl i'r gân Let’s Face the Music and Dance gan Irving Berlin. Mae’n esbonio pam y datblygodd Theatr Gerdd i fod mor boblogaidd yn ystod y 1930au.