Llwyfannu drama gerdd
Does dim rhaid i bob cynhyrchiad cerddorol fod â setiau a gwisgoedd drud, ysblennydd. Mae modd llwyfannu rhai yn syml a’u perfformio’n effeithiol ar gyllideb fach. Yn y dramâu cerdd gorau, y caneuon a’r stori ydy’r sêr. Am fod dramâu cerdd yn galw am gymaint o atal anghrediniaethCredu rhywbeth sydd dim yn wir, yn enwedig er mwyn mwynhau ffuglen. beth bynnag (pwy sydd wir yn dechrau canu pan fydd cariad yn ei adael?) does dim angen defnyddio llawer o set i ddynodi’r lleoliad. Mae modd peintio’r set mewn ffordd arddulliadol i awgrymu lleoliadau niferus a darparu sail generig ar gyfer yr holl ddigwyddiadau ar y llwyfan.
Mewn drama gerdd mae yna brif gymeriadau ac aelodau o’r corws. Y prif actorion sy’n chwarae’r prif gymeriadau, sydd hefyd yn gyfrifol am gyflwyno’r naratif. Bydd y corws yn cynorthwyo’r ddrama gyda chanu a dawnsio ac fel arfer bydd yn gweithio gyda’i gilydd fel ensemble. Efallai y bydd gan rai ohonyn nhw rannau bach, cameoYmddangosiad byr mewn drama, ffilm neu stori..
Mae arddull yr actio fel arfer yn wahanol i Theatr Ddramatig arferol, lle mae’r gynulleidfa ar y tu allan i’r digwyddiadau. Mewn Theatr Gerdd mae yna fwy o ymdeimlad ar y llwyfan o gydnabod y gynulleidfa. Caiff y ddeialog a’r digwyddiadau eu hanelu allan at y gynulleidfa. Mae Theatr Gerdd yn annaturiolaiddUnrhyw fath o theatr lle does dim rhith o realiti ar y llwyfan. Mae'n amlwg bod yr actorion yn cyflwyno syniad neu stori. oherwydd y confensiwn o ddechrau canu’n ddigymell.
Fel arfer bydd y cymeriadu’n amlycach ac yn llai cynnil nag mewn Theatr Ddramatig. Efallai y bydd rhywfaint o ryngweithio gyda’r gynulleidfa gyda chyswllt llygad, mynegiant yr wyneb, ystumiau neu siarad yn uniongyrchol. Ond yn aml mae angen i’r prif rannau fod yn gymeriadau crwn y gallwn ni gredu ynddyn nhw. Mae hyn yn amrywio yn ôl gofynion y ddrama unigol.
Yr enw ar y cast cyflawn gyda’i gilydd ydy’r cwmni. Mae caneuon y cwmni yn cynnwys pawb ac yn tueddu i adlewyrchu themâu’r darn. Mae unawdau’n cael eu defnyddio fel dyfais ddramatig i’r gynulleidfa allu deall mwy am emosiynau cymeriad ar unrhyw bwynt yn y stori.
Pan fydd yr emosiwn yn rhy gryf i siarad, rwyt ti’n canu, a phan fydd yn rhy gryf i ganu, rwyt ti’n dawnsio.