Dramâu cerdd modern
Mae Theatr Gerdd yn parhau i fod yn hynod o boblogaidd a dyma’r prif fath o theatr sydd i’w gweld yn y West End yn Llundain ac ar Broadway. Mae dramâu cerdd newydd yn ymddangos yn gyson, er bod llawer o glasuron hŷn yn dal i gael eu hadfywio, megis Singin’ in the Rain, Miss Saigon ac Oliver! Mae Phantom of the Opera wedi cael ei chynhyrchu mewn dros 150 o ddinasoedd mewn 30 o wledydd. Mae’n fusnes mawr a chyhyd â bod galw gan gynulleidfaoedd, bydd Theatr Gerdd yn parhau i fod yn iach. Roedd cyfanswm gwerthiant tocynnau’r West End yn 2012 yn agos i £530 miliwn, gyda £320 miliwn ohono wedi ei wario ar docynnau sioeau cerdd.
Mae dramâu cerdd difrifol wedi ymddangos hefyd, yn seiliedig ar gymhlethdodau cymdeithas fodern a phynciau cyfoes, megis Rent am HIV/AIDS. Yn ddiweddar gwelwyd tueddiad i gymryd caneuon canwr penodol a llunio naratif o’u cwmpas i ffurfio drama gerdd. Dyna ddigwyddodd gyda’r sioeau cerdd poblogaidd yn y West End, Mamma Mia! (caneuon Abba), We Will Rock You (Queen) a Jersey Boys (Frankie Valli and the Four Seasons).
Pam mae Theatr Gerdd yn dal i fod mor boblogaidd gyda chynulleidfaoedd? Ai oherwydd bod y sioeau yn cynnig dihangfa mewn cyfnod trafferthus? Dywedodd y beirniad Charles Spencer:
Yn ôl fel rwyf i’n ei gweld hi, nid goroesi’r dirwasgiad yn unig fydd y theatr, bydd hefyd yn ein helpu ni i’w ddioddef drwy gynnig yr ymdeimlad arbennig hwnnw o gymuned o gynulleidfa theatr a dihangfa dros dro i fydoedd eraill a bywydau eraill.