Ysgrifennu am Theatr Gerdd
Os byddi di’n ysgrifennu am sioe gerdd rwyt ti wedi ei gweld, mae dau beth pwysig i’w cofio yn ogystal â’r pethau rwyt ti’n eu nodi fel arfer mewn adolygiad o’r fath - dylunio, goleuo, actorion, perfformiadau ac ati. Y cyntaf ydy esbonio graddfa’r cynhyrchiad yn glir. Mewn cynhyrchiad o Mary Poppins yn y West End er enghraifft, roedd yr actor yn hedfan ar draws yr awditoriwm. Dyw hynny ddim yn mynd i ddigwydd mewn cynhyrchiad mewn neuadd bentref a does dim pwynt beirniadu sioe sydd â chyllideb isel am hynny.
Y peth arall ydy’r gerddoriaeth a sut y caiff ei llwyfannu. Mae angen sicrhau perfformiad da yn yr ystyr gerddorol ac ar gyfer y dawnsfeydd mae angen dawnswyr medrus, egni, ynghyd â’r gallu i sicrhau bod y gynulleidfa yn teimlo emosiwn y gerddoriaeth. Byddet ti’n disgwyl i’r arddull y caneuon ddiffinio arddull y sioe. Os byddi di’n adolygu drama gerdd, bydd dy ymateb di i’r arddull honno’n ganolog i dy adolygiad. Os byddi di am ddarllen adolygiadau theatr proffesiynol, darllena’r cylchgrawn The Stage neu’r adran theatr mewn papurau newydd poblogaidd arlein.

Darllena Ysgrifennu a gwerthuso theatr i ddysgu mwy.