Theatr GerddTarddiad Theatr Gerdd

Mae Theatr Gerdd yn defnyddio caneuon, dawns a deialog i adrodd stori. Mae hanes hir i'r genre poblogaidd hwn ac mae yna rolau arbenigol sydd ynghlwm wrth lwyfannu drama gerdd fodern.

Part ofDramaArddulliau, genres ac ymarferwyr

Tarddiad Theatr Gerdd

Mae dramâu yn cynnwys caneuon ac egwyliau cerddorol wedi bod yn boblogaidd ers cyfnod theatr Shakespeare, ac yn gynharach mewn ymarferion defodol hynafol yng Ngroeg, sef tarddiad gwreiddiol pob math o theatr. Roedd dramâu yn aml yn cynnwys darnau cerddorol o’r enw masques. Ond doedd y rhain ddim yn rhan sylfaenol o strwythur y darn a byddai modd perfformio’r ddrama hebddyn nhw heb golli ystyr. Fyddai hi ddim yn hawdd perfformio drama gerdd fodern heb y caneuon gan eu bod yn elfen hanfodol o’r arddull a’r stori.

Yn hanner cyntaf yr 17eg ganrif, hyd amser ddiwedd y 1650au, roedd masque yn ffurf boblogaidd o adloniant yn y llys ynddo’i hun. Roedd y llwyfannu’n goeth ac yn ddrudfawr. Yr enw mwyaf blaenllaw a gysylltir â ffurf masque oedd y pensaer a’r dylunydd gwisgoedd a setiau, Inigo Jones.