Operâu Baled ac Operâu Comig
Roedd rhai ffurfiau o Theatr Gerddorol fel rydyn ni’n ei hadnabod yn bodoli yn y 18fed ganrif ym Mhrydain; roedd y rhain yn operatig o ran arddull. Roedd dau fath, Operâu Baled ac Operâu Comig. Roedd gan y rhain sgôr gwreiddiol (cerddoriaeth wedi ei chyfansoddi’n arbennig) neu roedden nhw’n benthyg melodïau poblogaidd y dydd ac yn aml roedden nhw’n seiliedig ar straeon neu nofelau enwog. Roedd rhai’n parodïo gweithiau operatig oedd eisoes yn bodoli. Yr enghraifft enwocaf o Opera Faled ydy The Beggar’s Opera (Opera Pishyn Tair yn Gymraeg) a ysgrifennwyd ym 1728 gan John Gay. Dyma, ym marn rhai, yw’r ddrama gerdd gyntaf. Mae’n enghraifft glir o groesi o un genre i un arall, a chafodd ei thrawsosod gan Brecht a Kurt Weill i greu Die Dreigroschenoper ym 1928. Darllena Theatr Epig a Brecht i ddysgu mwy.

Y Neuadd Gerdd
Ym Mhrydain ac yn yr Unol Daleithiau dechreuodd comedïau cerddorol ddod yn ffurf boblogaidd o adloniant erbyn y 1800au, ochr yn ochr â’r Neuadd Gerdd. Ond tra bo’r Neuadd Gerdd yn gyfuniad o sgetsus byr a vignetteSgetshis byr, annibynnol sydd â dechrau, canol, diwedd ac ystyr. yn cyfuno caneuon comig a darnau’n sefyll ar eu pen eu hunain, roedd gan opera gomedi cerddorol naratif neu stori glir drwyddi. Roedd y Neuadd Gerdd yn defnyddio jôcs masweddus (yn aml roedd y caneuon yn cynnwys llawer o ystyron mwys anllad) ac roedd yn ffurf gymharol rad a phoblogaidd iawn o adloniant i’r dosbarth gweithiol ar y pryd.
Ond roedd comedïau cerddorol yn defnyddio hiwmor mwy soffistigedig ac yn apelio at y dosbarthiadau uwch a chanol. Roedd y straeon a’r cynnwys yn llawer mwy addas i deuluoedd ac roedd y set a’r gwerthoedd cynhyrchu’n goeth o gymharu. Roedd partneriaeth Theatr Gerdd o’r enw Gilbert a Sullivan yn enwog am gynhyrchu llawer o operâu comig a chomedïau cerdd yng nghanol a diwedd y 1800au. Mae llawer o’r rhain yn dal i gael eu perfformio heddiw, megis The Mikado, H.M.S. Pinafore a The Pirates of Penzance.
