Meddwl yn feirniadol a datrys problemauFfynonellau gwybodaeth

Gall gwahanol dechnegau ddatgelu pa wybodaeth i'w defnyddio wrth ddatrys problemau. Mae’n bosibl defnyddio meini prawf hygrededd er mwyn penderfynu pa mor gredadwy yw ffynonellau.

Part ofCenedlaethol: Sylfaen CA4Her dinasyddiaeth fyd-eang

Ffynonellau gwybodaeth

Mae dau fath o ffynhonnell gwybodaeth:

  • cynradd
  • eilaidd

Mae’n bwysig deall y gwahaniaeth rhwng y ffynonellau gwybodaeth, oherwydd bydd hyn yn dylanwadu ar ei hygrededd.

Ffynhonnell cynradd

Ffynhonnell cynradd yw’r ffynhonnell agosaf at y digwyddiad, yr ymchwil neu’r profiad gwreiddiol.

Enghreifftiau o ffynonellau cynradd yw:

  • llythyr gwreiddiol
  • darn o ddyddiadur gwreiddiol
  • nodiadau o arbrawf neu ymchwil gwreiddiol
  • nofel
  • cerdd
  • drama

Ffynhonnell eilaidd

Mae ffynhonnell eilaidd un cam ymhellach oddi wrth y digwyddiad, yr ymchwil neu’r profiad cynradd (gwreiddiol).

Enghreifftiau o ffynonellau eilaidd yw:

  • adroddiad gwyddonol yn seiliedig ar nodiadau o arbrawf gwreiddiol
  • beirniadaeth yn seiliedig ar nofel, drama neu gerdd wreiddiol

More guides on this topic