Dylanwadau amgylcheddol
Mae dylanwadau amgylcheddol yn cyfeirio at yr amgylchedd o’n cwmpas. Gall hyn gynnwys:
- yr aer rydym yn ei anadlu
- y dŵr sy’n gorchuddio’r rhan fwyaf o arwyneb y Ddaear
- y planhigion a’r anifeiliaid o’n cwmpas
Yn ddiweddar, mae gwyddonwyr wedi bod yn ymchwilio i effaith pobl ar yr amgylchedd.
Y prif feysydd sy’n achosi pryder yw llygredd aer, datgoedwigo Torri coed a fforestydd er mwyn defnyddio'r tir at ddibenion eraill. a glaw asidGlaw sydd mor asidig nes ei fod yn achosi niwed i’r amgylchedd.. Er hyn, mae cymdeithas yn fwy ymwybodol o’r perygl mae unigolion a busnesau yn gallu ei achosi i’r amgylchedd, ac mae’n chwilio am ffyrdd o warchod yr amgylchedd.
Enghraifft bywyd go iawn
Mae ymwybyddiaeth o’r amgylchedd wedi cynyddu o ganlyniad i waith ymgyrchwr Rhywun sy’n cymryd rhan mewn gweithgaredd wedi ei drefnu gyda’r bwriad o newid cymdeithas. fel Greenpeace.
Mae Greenpeace yn defnyddio’r cyfryngau cymdeithasol er mwyn targedu cynifer o bobl ag sy’n bosibl a thynnu sylw at eu cenhadaeth, sef newid agweddau ac ymddygiad pobl er mwyn gwarchod yr amgylchedd rhag rhagor o niwed.

Yn hwyr neu’n hwyrach, bydd yn rhaid i ni sylweddoli bod gan y Ddaear hawliau hefyd, gan gynnwys yr hawl i fyw heb lygredd. Rhaid i ddynoliaeth weld na all dyn fyw heb y Fam Ddaear, ond gall y blaned fyw heb ddyn.