Meddwl yn feirniadol a datrys problemauDylanwadau gwleidyddol

Gall gwahanol dechnegau ddatgelu pa wybodaeth i'w defnyddio wrth ddatrys problemau. Mae’n bosibl defnyddio meini prawf hygrededd er mwyn penderfynu pa mor gredadwy yw ffynonellau.

Part ofCenedlaethol: Sylfaen CA4Her dinasyddiaeth fyd-eang

Dylanwadau gwleidyddol

Penderfyniadau gan y llywodraeth sy’n effeithio ar amgylchedd penodol yw dylanwadau gwleidyddol. Mae hyn yn digwydd oherwydd bod y llywodraeth, ar lefel leol, cenedlaethol a rhyngwladol, yn gwneud rheolau a rheoliadau sy’n dylanwadu ar y ffordd mae pobl yn byw.

Os bydd y llywodraeth yn penderfynu codi cyfradd , gallai hynny olygu bod gan bobl lai o . Mae llai o incwm gwario yn golygu llai o arian i brynu nwyddau a gwasanaethau.

Enghraifft bywyd go iawn

Cynllun ariannol yw’r Lwfans Cynhaliaeth Addysg. Dan y cynllun hwn mae pobl ifanc rhwng 16 a 19 oed yn derbyn swm penodol o arian bob pythefnos i gefnogi eu haddysg. Mae’r cynllun wedi cael ei ddileu yn Lloegr, ond mae’n dal ar gael yng Nghymru ar hyn o bryd (yn 2017).

Yr oedran pleidleisio yng Nghymru ar hyn o bryd yw 18. Os bydd yr oed pleidleisio’n cael ei ostwng i 16 yng Nghymru, gallai hyn olygu bod gan bobl ifanc fwy o siawns i ddylanwadu ar benderfyniadau gwleidyddol sy’n ymwneud â materion fel dileu cynlluniau tebyg i’r Lwfans Cynhaliaeth Addysg.

More guides on this topic