Meddwl yn feirniadol a datrys problemauDadansoddiad PESTLE

Gall gwahanol dechnegau ddatgelu pa wybodaeth i'w defnyddio wrth ddatrys problemau. Mae’n bosibl defnyddio meini prawf hygrededd er mwyn penderfynu pa mor gredadwy yw ffynonellau.

Part ofCenedlaethol: Sylfaen CA4Her dinasyddiaeth fyd-eang

Dadansoddiad PESTLE

Mae casglu gwybodaeth yn rhan bwysig o’r broses o ddatrys problemau.

Gallwn ddefnyddio llawer o wahanol dechnegau er mwyn penderfynu pa wybodaeth i’w chasglu. Un o’r technegau hyn yw dadansoddiad PESTLE.

yw PESTLE sy'n sefyll am y geiriau Saesneg canlynol:

  • political
  • economic
  • social and cultural
  • technological
  • legal
  • environmental

Dyma'r geiriau Cymraeg.

Dadansoddiad PESTLE; Gwleidyddol, Economaidd, Cymdeithasol a diwylliannol, Technolegol, Cyfreithiol, Amgylcheddol.

Mae dadansoddiad PESTLE yn dechneg sy’n cael ei defnyddio er mwyn deall effaith ffactorau allanol ar leoliad, busnes neu sefydliad.

Mae’n helpu unigolyn neu sefydliad i ddeall cyd-destun llawn ei amgylchedd.

More guides on this topic