Dylanwadau cyfreithiol
Mae cyfreithiau yn disgrifio rheolau. Mae rheolau'n cael eu gorfodi gan sefydliadau fel yr heddlu, sy’n gwneud yn siŵr fod y rheolau’n cael eu dilyn. Os nad yw’r rheolau’n cael eu dilyn, bydd yr heddlu’n ymyrryd, ac mae’n bosibl bydd rhywun sy’n torri’r rheolau yn cael ei arestio.
Mae’r amgylchedd cyfreithiol yn newid ar hyd yr adeg, wrth i’r llywodraeth gyflwyno deddfau newydd drwy’r senedd. Mae’r deddfau hyn yn effeithio ar unigolion a sefydliadau drwy wneud pethau penodol yn anghyfreithlon neu’n gyfreithlon, neu drwy ddweud bod angen gwneud rhywbeth mewn ffordd benodol.
Enghraifft bywyd go iawn

Cymru oedd y wlad gyntaf yn y Deyrnas Unedig i godi tâl am fagiau plastig mewn siopau.
Oherwydd bod y cynllun wedi bod yn llwyddiannus yng Nghymru, mae Lloegr, Gogledd Iwerddon a’r Alban hefyd wedi penderfynu codi tâl am fagiau plastig. Mae hyn wedi newid y ffordd mae unigolion yn ymddwyn. Erbyn hyn mae pobl yn fwy tebygol o ailddefnyddio bagiau plastig.
Mae’r llywodraeth yn amcangyfrif y bydd y cynllun yn arwain at y manteision a ganlyn yn ystod y deng mlynedd nesaf:
- cyfrannu dros £780 miliwn i economi’r Deyrnas Unedig
- arbed £60 miliwn mewn costau clirio sbwriel
- gwerth £13 miliwn o arbedion carbon