Meddwl yn feirniadol a datrys problemauDylanwadau technolegol

Gall gwahanol dechnegau ddatgelu pa wybodaeth i'w defnyddio wrth ddatrys problemau. Mae’n bosibl defnyddio meini prawf hygrededd er mwyn penderfynu pa mor gredadwy yw ffynonellau.

Part ofCenedlaethol: Sylfaen CA4Her dinasyddiaeth fyd-eang

Dylanwadau technolegol

Mae dylanwadau technolegol yn cyfeirio at ddatblygiadau ym maes technoleg sy’n effeithio ar unigolyn, diwydiant a’r farchnad.

Enghraifft bywyd go iawn

Enghraifft o arloesi dylanwadol ym maes technoleg yn ddiweddar yw . Mae hyn wedi arwain at gyflwyno ceir heb yrwyr.

Gallai’r datblygiad arloesol hwn arwain at nifer o fanteision, er enghraifft:

  • bydd gan bobl fwy o amser i wneud pethau eraill tra maen nhw'n teithio yn y car, ee cysgu neu ddarllen
  • bydd llai o ddamweiniau ar y ffyrdd gan fod pob car heb yrrwr yn defnyddio technoleg er mwyn synhwyro ble yn union mae ceir eraill
  • bydd pobl yn fwy diogel, oherwydd mae’r rhan fwyaf o ddamweiniau yn cael eu hachosi gan gamgymeriadau sy’n cael eu gwneud gan bobl
  • ni fydd angen i neb brynu car a thalu am yswiriant oherwydd gallai ceir heb yrwyr fod fel gwasanaeth tacsi
Tu mewn car heb yrrwr
Image caption,
Enghraifft ddiweddar o ddatblygiad technolegol yn y diwydiant ceir yw ceir heb yrwyr

Er hyn, gall datblygiadau technolegol gael rhai canlyniadau negyddol hefyd. Mae pryder wedi ei fynegi ynglŷn â’r canlynol:

  • y risg o car heb yrrwr
  • tywydd gwael a allai effeithio ar allu ceir heb yrwyr i ymateb, ee gallai eira ar y ffordd amharu ar gamerâu

Hefyd, mae rhai pobl yn dweud eu bod yn mwynhau gyrru car ac nad oes angen ceir heb yrwyr.

Yn gyffredinol, fodd bynnag, mae datblygiadau technolegol yn cael effaith gadarnhaol iawn mewn cymdeithas.

Question

Pa effaith allai ceir heb yrwyr ei chael ar fusnesau a gwasanaethau eraill?

More guides on this topic