Dylanwadau economaidd
Mae dylanwadau economaidd fel cyfradd chwyddiant Y cynnydd ym mhris nwyddau a gwasanaethau., cyfradd llog Y tâl am roi benthyg arian neu’r enillion am gynilo. a cyfradd diweithdra Y ganran o’r gweithlu cyfan sy’n ddi-waith. yn gallu effeithio ar berfformiad yr economi.
Gall hyn gael effaith uniongyrchol ar unigolyn neu sefydliad.
- Mae cynnydd mewn cyfraddau chwyddiant yn effeithio ar unigolyn pan mae chwyddiant yn codi, oherwydd mae pob punt sydd gen ti yn y banc yn prynu canran lai o gynnyrch neu wasanaeth, felly rwyt ti’n cael llai am dy arian.
- Mae cynnydd mewn cyfraddau chwyddiant yn effeithio ar fusnes os yw cyfraddau llog yn codi, oherwydd efallai bydd pobl yn cynilo mwy o arian mewn banciau, felly bydd llai o arian ar gael i’w wario ar nwyddau a gwasanaethau.
Question
Os yw cyfraddau diweithdra yn codi, beth fydd yr effaith debygol ar unigolion a busnesau?
Bydd gan unigolion lai o arian i’w wario ar nwyddau a gwasanaethau. Gallai hyn arwain at ostyngiad mewn gwerthiant i fusnesau sy’n gwerthu eitemau moethus, ee gwyliau. Ar y llaw arall, gallai arwain at gynnydd mewn gwerthiant i fusnesau sy’n gweithredu yn y sector nwyddau rhad, ee archfarchnadoedd a siopau dillad sydd â phrisiau isel.