Ymchwil ar-lein
Mae ymchwil ar-lein yn gallu ymddangos yn dasg enfawr. Ond drwy ddysgu sut i'w wneud yn effeithiol, gelli di arbed amser a gwaith.
Mae’r camau canlynol yn egluro un dull o wneud hyn:
- penderfynu pa fath o ymchwil rwyt ti eisiau ei wneud
- dewis geiriau chwilio yn ofalus
- penderfynu ynglŷn â’r math o ffynhonnell
- bod yn drylwyr
- gwerthuso
- cyfeirnodi Dweud o ble mae geiriau neu wybodaeth wedi dod.
Cam un – math o ymchwil
Y cam cyntaf yw penderfynu a yw’r pwnc yn ymchwil caled neu'n ymchwil meddal.
Mae ymchwil caled yn cyfeirio at ymchwil gwrthrychol Yn seiliedig ar ffeithiau, yn fesuradwy ac yn weladwy. a gwyddonol. Bydd hygrededd ffynonellau yn bwysig iawn yn y cam hwn, oherwydd mae gwybodaeth ymchwil caled yn gallu cynnwys ffigurau, ystadegau, tystiolaeth fesuradwy a ffeithiau sydd wedi eu profi yn barod.
Mae ymchwil meddal yn cyfeirio at destun sy’n seiliedig ar farn, sy’n ddiwylliannol ac yn fwy goddrychol Yn seiliedig ar deimladau, chwaeth a barn.. Nid yw hygrededd ffynonellau mor bwysig.
Weithiau bydd angen ymchwil caled yn ogystal ag ymchwil meddal. Mae’n bwysig deall y math o ymchwil, oherwydd bydd hyn yn dylanwadu ar y math o ffynhonnell.
Cam dau – geiriau chwilio
Defnyddia’r tri gweithredydd Boole sylfaenol – AND [AC], OR [NEU], NOT [DIM] – yn dy chwiliad er mwyn cynyddu neu leihau nifer y canlyniadau. Bydd angen defnyddio'r geiriau Saesneg hyn wrth chwilio am eiriau Cymraeg, oherwydd dyma'r iaith mae systemau cyfrifiadurol yn ei deall.
AND
Bydd defnyddio’r gair Saesneg AND yn dy chwiliad yn lleihau nifer y canlyniadau. Bydd yn dweud wrth y gronfa ddata bod yn rhaid i bob term chwilio fod yn y canlyniadau.
Er enghraifft, bydd chwilio am y geiriau iselder AND ystadegau yn cynnwys y ddau air yn y canlyniadau.
Fydd hyn ddim yn gwarantu bydd y geiriau i’w gweld yn ymyl ei gilydd, dim ond bod y ddau air yn bresennol yn y canlyniadau. Mae’n bosibl defnyddio mwy na dau air yn dy chwiliad, ee iselder AND ystadegau AND Cymru.
OR
Bydd defnyddio’r gair Saesneg OR yn dy chwiliad yn cynyddu nifer y canlyniadau, ac mae’n bosibl ei ddefnyddio i ofyn am fath arall o chwiliad. Rhaid i ganlyniadau’r chwiliad gynnwys y naill air neu’r llall, ee ystadegau iselder OR pryder. Byddai’r rhan fwyaf o beiriannau chwilio yn dehongli hyn fel ystadegau AND iselder OR pryder, hynny yw ystadegau a naill ai’r gair iselder neu’r gair pryder.
NOT
Bydd defnyddio’r gair Saesneg NOT yn dy dermau chwilio yn dweud wrth rai peiriannau chwilio am beidio â chynnwys geiriau yn y chwiliad, ee bydd iselder NOT America yn rhoi canlyniadau sy’n cynnwys y gair iselder, ond ni fydd yn dangos canlyniadau sy’n gysylltiedig ag America.
Fodd bynnag, nid yw peiriant chwilio fel Google yn adnabod y gweithredydd Boole NOT. Yn lle hynny, mae’n well ganddo arwydd minws yn union o flaen y gair, heb le gwag rhwng yr arwydd minws a’r gair sy’n ei ddilyn, ee iselder –America.
Cromfachau
Mae’n bosibl defnyddio gwahanol weithredwyr Boole gyda’i gilydd drwy ddefnyddio cromfachau. Bydd cronfa ddata yn chwilio am y geiriau neu’r termau sydd mewn cromfachau yn gyntaf, ac yna’n chwilio am y geiriau nad ydynt mewn cromfachau, ee ystadegau AND (iselder OR pryder). Bydd y canlyniadau ar gyfer y chwiliad hwn yn cynnwys gwybodaeth am ystadegau ac iselder/ystadegau a phryder/ystadegau ac iselder a phryder, ond ni fydd yn rhoi canlyniadau ar gyfer iselder a phryder os nad yw’r gair ystadegau yn cael ei grybwyll.
Dyfynodau
Os wyt ti eisiau chwilio am ymadrodd llawn, rho’r ymadrodd mewn dyfynodau dwbl, ee “ystadegau iselder Cymru”. Nid yw’r dull hwn yn un o’r gweithredwyr Boole.
Question
Beth ddylet ti ei roi yn y peiriant chwilio os wyt ti eisiau chwilio am wybodaeth am yr arddegau a’r cyfryngau, ond nid teledu?
Awgrym – dechreua gyda’r arddegau a defnyddia AND, cromfachau a NOT
arddegau AND (cyfryngau NOT teledu)
Question
Beth ddylet ti ei roi yn y peiriant chwilio os wyt ti eisiau chwilio am blant/pobl ifanc a thechnoleg?
Awgrym – dechreua gyda chromfachau a’r gair plant a defnyddia OR ac AND
(plant OR pobl ifanc) AND technoleg
Cam tri – math o ffynhonnell
Dewisa ffynonellau credadwy os yw’r pwnc yn ymchwil caled.
Ymchwil caled
Gall ffynonellau ymchwil caled gynnwys:
- ffynonellau’r llywodraeth, fydd â .gov neu .llyw yn y teitl
- ffynonellau’r Gwasanaeth Iechyd Gwladol, fydd ag .nhs.uk yn y teitl
- ffynonellau sefydliadau dielw, fydd â .org.uk yn y teitl
- ffynonellau masnachol, fydd â .co.uk neu .com yn y teitl
- gwefannau sy’n cynnwys .ac yn y teitl – fel arfer mae rhain yn perthyn i golegau a phrifysgolion
- cyfnodolion academaidd mae hi’n bosibl cael mynediad atynt drwy ddefnyddio peiriannau chwilio fel Google Scholar
Mae Wicipedia yn fan cychwyn da wrth wneud gwaith ymchwil, ond gall unrhyw un ysgrifennu a golygu cynnwys ar gyfer Wicipedia, felly gallai’r wybodaeth fod yn anghywir, yn cynnwys tuedd neu’n hen ac yn amherthnasol. Gallai’r adran gyfeirnodi ar waelod tudalen Wicipedia fynd â ti at y ffynhonnell wreiddiol, ac mae’n debyg mai ffynonellau gwreiddiol neu gynradd fydd y rhai mwyaf dibynadwy.
Ymchwil meddal
Gall ffynonellau ymchwil meddal gynnwys:
- blogiau
- fforymau a safleoedd trafod
- safleoedd adolygu cynnyrch
Cam pedwar – bod yn drylwyr
Edrycha ar ganlyniadau sy'n ymddangos ar fwy nag un dudalen, yn hytrach na dibynnu ar y wybodaeth ar y dudalen gyntaf yn unig.
Y safleoedd mwyaf poblogaidd sy'n tueddu i ymddangos ar y dudalen gyntaf. Ond mae’n dal yn werth edrych ar dudalennau eraill, oherwydd efallai bydd y wybodaeth yn dal i fod yn ddilys – ond nid mor boblogaidd.
Cam pump – gwerthuso
Gwerthusa dudalennau gwe. Bydd angen defnyddio meini prawf hygrededd er mwyn penderfynu a fydd hi’n werth defnyddio’r wybodaeth.
Cam chwech – cyfeirnodi
Cyfeirnoda neu ddyfynna ffynonellau drwy greu llyfryddiaeth Rhestr o’r ffynonellau gwybodaeth ysgrifenedig am bwnc sy’n ymddangos fel arfer ar ddiwedd dogfen.. Fel arfer, mae hyn yn golygu nodi:
- awdur yr erthygl ar y we (neu’r dudalen ar y we)
- teitl
- blwyddyn
- enw’r safle
- cyfeiriad y safle ar y we
- dyddiad y cafodd yr erthygl/tudalen ei darllen
Enghraifft
Messenger, S. (2016). Pasio Mesur Amgylchedd newydd i Gymru. BBC Cymru Fyw, [ar-lein]. Ar gael ar: http://www.bbc.co.uk/cymrufyw/35463908 [Darllenwyd: 2 Chwef. 2016]