Dylunio theatrDefnyddio technoleg ddigidol

Mae cynllun y set, y goleuo, y sain a'r gwisgoedd, a'r ffordd mae technoleg ddigidol yn cael ei defnyddio oll yn cyfrannu at brofiad y gynulleidfa. Mae yna nifer o rolau ym maes dylunio theatr.

Part ofDramaByd y ddrama a dylunio theatr

Defnyddio technoleg ddigidol

Mae rôl newydd y dylunydd fideo wedi dod yn fwyfwy cyffredin dros y blynyddoedd diwethaf ac mae’n duedd sy’n ymddangos hefyd mewn dylunio theatr. Wrth i dechnoleg fynd yn rhatach ac yn haws cael gafael arni, mae cwmnïau theatr mawr a bach yn defnyddio fideo’n llwyddiannus iawn. Er enghraifft, defnyddiodd cynhyrchiad Y Bont, cynhyrchiad Theatr Genedlaethol Cymru, ddelweddau archif a ffilmiau byr fel rhan o’r prosiect uchelgeisiol hwn. Cafodd ffilmiau byr chwe eiliad o’r cynhyrchiad eu rhyddhau ar y llwyfan cyfryngau cymdeithasol, Vine, o flaen llaw.

Casgliad o ddelweddau du a gwyn i hyrwyddo Y Bont, Theatr Genedlaethol Cymru
Image caption,
Roedd aelodau o’r gynulleidfa hefyd yn gallu dilyn stori gefndir y ddrama arlein wrth i’r ddau brif gymeriad, Kye a Dwynwen, flogio cyn y perfformiad LLUN: Theatr Genedlaethol Cymru

Theatr cyswllt eang

Cafodd cynhyrchiad National Theatre Wales, The Radicalisation of Bradley Manning, ei ffrydio’n fyw arlein yn fyd-eang ac roedd hefyd yn cynnwys ffrwd sylwadau byw gydag anogaeth i’r gynulleidfa gyfrannu. Mae National Theatre Wales yn galw hyn yn ‘theatr cyswllt eang’ ac mae’n dod yn fwyfwy poblogaidd.

Fodd bynnag mae rhai yn beirniadu’r defnydd o dechnoleg ddigidol mewn cynyrchiadau theatr, gan ddweud bod yr arbrofi hwn yn tynnu sylw oddi wrth y cynhyrchiad a’i fod yn rhywbeth sy’n perthyn i’r sinema yn hytrach na’r theatr. Ond mae llawer o blaid defnyddio’r dechnoleg a bydd yn sicr yn dod hyd yn oed yn fwy poblogaidd dros y blynyddoedd nesaf.

Os byddi di’n penderfynu defnyddio tafluniad neu dechnoleg fideo mewn cynhyrchiad, mae’n bwysig cofio na fydd y gynulleidfa’n fodlon ar dechnoleg ddigidol soffistigedig yn unig os nad ydy gweddill y cynhyrchiad yn gryf. Rhaid i stori a chymeriad ddod yn gyntaf. Mae’r dechnoleg yno i wella ac ategu’r cynhyrchiad, nid i dra-arglwyddiaethu drosto neu i’w roi yn y cysgod.

Byddai’n wallgof i’r theatr beidio â chroesawu’r dechnoleg newydd, yn enwedig taflunio fideo; mae’r canlyniadau’n gallu bod yn rhagorol.
Michael Billington, beirniad theatr The Guardian, BBC News Online 27 Mawrth 2012

More guides on this topic