Dylunio theatrGoleuadau a’r dylunydd goleuo

Mae cynllun y set, y goleuo, y sain a'r gwisgoedd, a'r ffordd mae technoleg ddigidol yn cael ei defnyddio oll yn cyfrannu at brofiad y gynulleidfa. Mae yna nifer o rolau ym maes dylunio theatr.

Part ofDramaByd y ddrama a dylunio theatr

Goleuadau a’r dylunydd goleuo

Golau llwyfan gyda ‘gel’ coch
Image caption,
Golau llwyfan gyda ‘gel’ coch LLUN: hsvrs

Gall golau fod yn ddefnyddiol i ddiffinio gwahanol leoliadau ar y llwyfan, creu teimlad ac awyrgylch, tynnu sylw at funudau allweddol yn y ddrama a chyfeirio sylw y gynulleidfa. Gall goleuo ddynodi amser o’r flwyddyn neu’r dydd ac mae modd ei ddefnyddio hefyd mewn ffordd neu symbolaidd, megis defnyddio golau coch i ddynodi perygl neu nwyd.

Rhaid i’r dylunydd goleuo fod yn gyfarwydd iawn â’r ddrama hefyd. Mae’n gweithio’n agos iawn gyda’r cyfarwyddwr er mwyn deall yr hyn mae am ei gyfleu ym mhob golygfa a ble y dylai ffocws yr actio ar y llwyfan fod. Mae hefyd yn gweithio’n agos gyda dylunydd y set gan fod y ddau yn chwarae rhan mor bwysig yn creu effaith weledol y cynhyrchiad. Mae gwireddu gweledigaeth y dylunydd artistig yn aml yn dibynnu’n helaeth ar y modd y caiff y set ei goleuo.

Mae yn cael ei ddefnyddio’n gynyddol wrth i dechnoleg ddatblygu. Caiff goleuo hefyd ei ddefnyddio ar y cyd â TGCh (technoleg gwybodaeth a chyfathrebu) mewn cynyrchiadau megis The Curious Incident of the Dog in the Night-Time.

Mae’r dylunydd goleuo’n pennu’r ciwiau goleuo. Mae hyn yn golygu ei fod yn penderfynu pryd i symud o’r naill gyflwr goleuo at y nesaf. Gelwir newid sydyn mewn cyflwr goleuo yn snap a gelwir newid araf pan fo un cyflwr yn gorgyffwrdd ag un arall yn pylu.

Yn union fel gyda dyluniad y set, rhaid i arddull y goleuo gyd-fynd â’r cynhyrchiad. Ni fyddai cynhyrchiad o ddrama gan Chekhov yn defnyddio goleuo symbolaidd. Ond byddai darn fel Rhwydo/Vangst gan Theatr Genedlaethol Cymru yn defnyddio goleuo mwy haniaethol ac arddulliedig

Actor yn eistedd tu ôl i ddesg a'r golau yn creu cysgod ar y llawr ar gyfer perfformiad Rhwydo/Vangst, Theatr Genedlaethol Cymru a Roos van Geffen
Image caption,
Perfformiad o Rhwydo/Vangst, Theatr Genedlaethol Cymru a Roos van Geffen, 2011 LLUN: Theatr Genedlaethol Cymru

More guides on this topic