Dylunio theatrDylunio gwisgoedd

Mae cynllun y set, y goleuo, y sain a'r gwisgoedd, a'r ffordd mae technoleg ddigidol yn cael ei defnyddio oll yn cyfrannu at brofiad y gynulleidfa. Mae yna nifer o rolau ym maes dylunio theatr.

Part ofDramaByd y ddrama a dylunio theatr

Dylunio gwisgoedd

Gwisg ydy’r hyn mae actor yn ei wisgo ar lwyfan. Gall gwisg gael effaith weledol enfawr, yn ogystal â chodi ymwybyddiaeth y gynulleidfa o gymeriad, lleoliad a chyfnod hanesyddol y ddrama. Eto, bydd y dewis o wisg yn amrywio yn ôl gofynion y ddrama felly rhaid i’r dylunydd gwisgoedd fod yn gyfarwydd iawn â’r ddrama a bod yn ymwybodol o gyflymder a strwythur y darn. Er enghraifft, fyddai hi ddim yn ymarferol pe bai cymeriad yn gweithio fel dyn tân ac yn gwisgo iwnifform mewn un olygfa ac yn ymlacio yn y tŷ yn ei ddillad ei hun yn yr olygfa nesaf. Gallai ychwanegu het yn yr olygfa gyntaf fod yn ddigon o symbol i gynrychioli’r swydd a fyddai hynny ddim yn amharu ar y rhediad o’r naill olygfa i’r llall.

Arddull cynhyrchu a gwisg

Bydd arddull y cynhyrchiad hefyd yn cael effaith enfawr ar y dewis o wisg. Bydd cynhyrchiad naturiolaidd yn ceisio gwisgo’r cymeriad mewn gwisg ddilys sydd mor agos â phosibl at yr hyn y byddai’r cymeriadau yn ei wisgo mewn gwirionedd. Fodd bynnag, gall darn Theatr Mewn Addysg fod â llond dwrn o actorion sy’n chwarae llawer o wahanol rannau. Mae’r rhan fwyaf o’r newidiadau o ran cymeriadau yn cael eu cyfleu gan yr hyn mae’r actorion eu hunain yn ei wneud ar y llwyfan drwy ddefnyddio llais, iaith y corff ayyb. Gall gwisg syml megis ychwanegu het, ffon neu siôl gynorthwyo hyn.

Bydd y dylunydd gwisgoedd yn gweithio’n agos iawn gyda’r cyfarwyddwr er mwyn rhannu’r weledigaeth. Efallai fod gan y cyfarwyddwr gynllun lliw penodol mewn golwg ar gyfer y darn. Os ydy'r cyfarwyddwr am osod y ddrama mewn cyfnod hanesyddol penodol nad ydy’n amlwg o’r sgript, megis cynhyrchiad modern o ddrama gan Shakespeare, rhaid i’r dylunydd gwisgoedd ddewis dillad priodol ac ystyried defnyddiau a lliwiau sy’n addas ar gyfer y cyfnod a’r cymeriad.

Bydd yn dechrau drwy greu brasluniau fel bod y cyfarwyddwr yn gallu gweld sut olwg fydd ar y cymeriadau mewn perthynas â’i gilydd ac yna gwneud samplau o wisgoedd i’r cymeriadau. Rhaid i’r dylunydd gwisgoedd hefyd weithio gyda’r dylunydd goleuo oherwydd gall goleuo gael effaith enfawr ar olwg y wisg.

Braslun o gynllun gwisg ar gyfer A Lonely Place to Die
Image caption,
Braslun o gynllun gwisg ar gyfer A Lonely Place to Die LLUN: Hayley Nebauer

Mae unrhyw wrthrychau y mae’r actor yn eu cario megis sbectol, ymbarél, neu ffon gerdded hefyd yn cael eu hystyried yn wisg gan eu bod yn rhan bwysig o’r ffordd mae’r cymeriad yn gwisgo. Darllena Disgrifio gwisg i ddysgu mwy am wisgoedd.

More guides on this topic