Cerddoriaeth a sain
Mae’r dylunydd sain yn gyfrifol am sain y cynhyrchiad sy’n ychwanegol at y sŵn a ddaw oddi wrth yr actorion. Weithiau, mae’r dylunydd sain yn gyfrifol am gerddoriaeth hefyd, ond fel arfer mae dylunio sain a cherddoriaeth yn ddwy rôl ar wahân. Mae’n dibynnu ar anghenion y sioe. Efallai y bydd gan gynhyrchiad sydd â llawer o gerddoriaeth fyw neu achlysurol ei chyfansoddwr ei hun, sy’n ysgrifennu cerddoriaeth wreiddiol ar gyfer y cynhyrchiad, neu gyfarwyddwr cerdd fel mewn Theatr Gerdd.
Mae rhai sioeau’n defnyddio llawer o effeithiau sain a swydd y dylunydd sain ydy penderfynu beth i’w ychwanegu er mwyn gwella’r cynhyrchiad. Yna rhaid dod o hyd i’r seiniau a chynllunio pryd y byddan nhw’n cael eu defnyddio, pryd y byddan nhw’n peidio ac uchder y sain er mwyn sicrhau’r effaith gorau.
Os ydy’r dylunydd sain yn gweithio’r sain yn ystod perfformiad bydd ganddo glustffonau i wneud yn siŵr bod yr effaith sain neu’r darn o gerddoriaeth yn barod am y ciw i’w chwarae ar yr adeg gywir. Gallai chwarae effaith sain uchel ar yr adeg anghywir ddifetha golygfa a chwalu’r ddelwedd theatrig.
Dewisiadau sain
Unwaith eto, bydd dewisiadau artistig y dylunydd sain yn dibynnu ar arddull y cynhyrchiad. Yn union fel golau, mae modd defnyddio sain yn effeithiol i greu awyrgylch a lleoliad, megis ychwanegu sain dawel trydar adar mewn golygfa sydd wedi ei gosod mewn gardd. Mae modd defnyddio sain hefyd mewn ffordd haniaethol. Mae’n bosib dewis seiniau sy’n adlewyrchu emosiynau’r cymeriadau ar y llwyfan, neu sy’n creu ofn neu dyndra, ee ychwanegu sain tician sy’n ailadrodd ac yn cynyddu o ran ei uchder drwy gydol yr olygfa.
Mae modd defnyddio cerddoriaeth hefyd i greu naws ac awyrgylch. Mae ei chwarae fel islais i’r actio ar lwyfan fel hyn yn cael ei alw’n isgerddoriaeth. Wyt ti’n gallu meddwl am gynhyrchiad oedd â dewis o gerddoriaeth a wnaeth argraff arnat ti?
Mae’r dewis o gerddoriaeth yn bwysig iawn. A ddylai fod yn fyw neu wedi ei recordio? Bydd yn rhaid i ti benderfynu a ydy’r gerddoriaeth yn gwella’r gwaith neu ydy’r olygfa’n fwy pwerus hebddi?
Mae’r clip Saesneg hwn yn dangos y cyfansoddwr, Angelo Badalamenti, yn esbonio sut y creodd e a’r cyfarwyddwr, David Lynch, gerddoriaeth thema’r gyfres deledu gwlt,