Dylunio theatrDewis y set

Mae cynllun y set, y goleuo, y sain a'r gwisgoedd, a'r ffordd mae technoleg ddigidol yn cael ei defnyddio oll yn cyfrannu at brofiad y gynulleidfa. Mae yna nifer o rolau ym maes dylunio theatr.

Part ofDramaByd y ddrama a dylunio theatr

Dewis y set

Mae’n bwysig fod y dewis o set yn cyd-fynd ag arddull y cynhyrchiad ac yn ychwanegu ato. Mae’n rhaid i ddylunydd y set ddeall anghenion y ddrama’n llawn, megis creu aml-leoliadau, llinellau golwg i’r gynulleidfa, ble y daw actorion i mewn ac allan ac unrhyw newidiadau posibl sydd angen eu gwneud i’r set yn ystod y ddrama. Ei swydd ydy dylunio mewn ffordd sy’n cefnogi’r hyn sy’n digwydd yn hytrach na thynnu sylw at y dyluniad ei hun. Gall set sy’n rhy brysur dynnu sylw oddi wrth yr hyn sy’n digwydd a gwneud gwaith yr actor yn anoddach, yn hytrach na’i gynorthwyo ar y llwyfan.

Llun o gynllun set ar gyfer Peaky Blinders, 2013
Image caption,
Llun o gynllun set ar gyfer Peaky Blinders, 2013 LLUN: Grant Montgomery
Y dylunydd setiau, Grant Montgomery ar set y Garrison Tavern, Peaky Blinders, 2013
Image caption,
Y dylunydd setiau, Grant Montgomery ar set y Garrison Tavern, Peaky Blinders, 2013 LLUN: Ian Youngs

Fel arfer, bydd dylunydd y set yn dechrau drwy drafod brasluniau o’i syniadau gyda’r cyfarwyddwr (ac weithiau’r cast). Yna, ar ôl gwneud y dewisiadau, bydd yn creu blwch model, sef model bach o’r set, wedi ei adeiladu i raddfa. Wrth wneud hyn mae’n gallu gweld sut y dylai edrych yn y cynhyrchiad a gwneud unrhyw addasiadau angenrheidiol.

Esiampl o gynllun 'blwch model' ar gyfer Marriage of Figaro, Opera Northern Ireland, Belfast
Image caption,
Esiampl o gynllun 'blwch model' ar gyfer Marriage of Figaro, Opera Northern Ireland, Belfast. LLUN: Adam Cutts.

Gweithio gyda blwch model

Mae’r clip Saesneg hwn o gynhyrchiad y BBC, yn dangos dylunydd llwyfan yn esbonio sut mae hi’n gweithio gyda model o’r set

More guides on this topic