Dylunio theatrMathau o oleuo

Mae cynllun y set, y goleuo, y sain a'r gwisgoedd, a'r ffordd mae technoleg ddigidol yn cael ei defnyddio oll yn cyfrannu at brofiad y gynulleidfa. Mae yna nifer o rolau ym maes dylunio theatr.

Part ofDramaByd y ddrama a dylunio theatr

Mathau o oleuo

Mae goleuo’n faes technegol iawn a cheir llawer o fathau gwahanol o oleuadau (neu lusernau).

Gellir gosod geliau lliw ar du blaen rhai llusernau fel eu bod yn taflu golau lliw ar y llwyfan. Hefyd, mae’n bosib gosod yr hyn a elwir yn gobo arnyn nhw. Llen wedi ei gosod ar ffrâm ar flaen y golau ydy hon, gyda chynllun neu batrwm wedi ei dorri ynddi. Mae’n hidlo’r golau gan greu effaith weledol ar y llwyfan. Er enghraifft, gellir defnyddio gobo i greu golau brith sy’n edrych fel dail coedwig, neu ei dorri’n stribedi i greu golau ar y llwyfan sy’n edrych fel barrau carchar.

Sbot - effaith ymyl galed, sy’n cael ei ddefnyddio i oleuo cymeriad neu elfennau penodol ar y llwyfan. Gellir defnyddio hidlyddion lliw gyda’r lamp hon.

Diagram golau sbot

Ffresnel - mae’n cael ei ddefnyddio i greu ymyl mwy meddal, gyda lens o flaen y lamp. Mae’n ddefnyddiol ar gyfer goleuo cyffredinol da, pan gaiff ei ddefnyddio gyda rhai eraill. Gellir defnyddio hidlyddion lliw gyda’r lamp hon.

Diagram golau Ffresnel

Llif - mae’n cynhyrchu golau clir lydan, ond ychydig o reolaeth sydd dros led y golau’n gyffredinol. Gellir defnyddio hidlyddion lliw gyda’r lamp hon.

Diagram golau llifolau

Strôb - golau sy’n fflachio, ac sy’n cael ei ddefnyddio ar gyfer effeithiau arbennig. Yn aml caiff ei ddefnyddio i gyfleu effaith hen ffilm. Mae’n creu effaith herciog ar symudiadau’r actorion pan fydd yn cael ei ddefnyddio ar ei ben ei hun.

Diagram golau strôb

More guides on this topic