Pwysigrwydd dylunio theatr
Mae profiad y gynulleidfa o’r ddrama yn cael ei effeithio’n fawr iawn gan y dylunio. Ceir amrywiaeth o rolau ym maes dylunio theatr sy’n gorgyffwrdd â’i gilydd. Gellir cael tîm o ddylunwyr sy’n gweithio ar gynhyrchiad ar raddfa fawr ond mae’n bosibl mai dim ond un dylunydd fyddai gan gynyrchiadau llai o faint. Gwaith y dylunydd ydy gweithio’n agos â’r cyfarwyddwr i sicrhau bod ei weledigaeth o’r darn yn cael ei chyflawni ar y llwyfan. Mae’n bwysig ystyried y math o lwyfan sy’n cael ei ddefnyddio wrth benderfynu ar ddylunio set. Edrycha ar Defnyddio Gofod i weld y gwahanol fathau o lwyfannau theatr.
Mae gan ddylunydd y cynhyrchiad reolaeth artistig dros:
- set a phropiau
- goleuo
- cerddoriaeth
- sain
- gwisg
Mae dylunydd y cynhyrchiad yn gweithio’n agos gyda’r cyfarwyddwr i sefydlu gweledigaeth gyffredin ar gyfer y darn ac yna mae’n gyfrifol am bob elfen o’r dylunio. Gall dylunydd y cynhyrchiad weithio gyda thîm i wireddu ei syniadau. Mae hon yn rôl greadigol iawn, a gall hefyd gwmpasu meysydd dylunio eraill, megis ffilm ac amlgyfryngau.
Set a dylunydd y set
Mae rôl dylunydd y set yn cynnwys gwneud penderfyniadau am bopeth o fewn y gofod actio ac o’i gwmpas, megis dodrefn, platfform wedi ei godi neu ardaloedd actio, mynedfeydd ac allanfeydd a siâp y gofod ei hun. Maen nhw fel arfer yn cymryd cyfrifoldeb am y propiau hefyd. Os oes gan y cynhyrchiad set wedi ei pheintio mae’n bosibl y bydd dylunydd y set yn cydweithio â dylunydd y golygfeydd, sy’n dylunio a pheintio golygfa ar gyfer cefn neu ochrau’r llwyfan. Fodd bynnag, mae’r ddwy rôl yn cael eu cyfuno ar adegau.