Defnyddio ymbelydredd
Mesur trwch papur
Mewn melin rholio papur, mae trwch y papur yn cael ei fonitro yn ôl faint o ymbelydredd betaYmbelydredd sy’n cael ei achosi gan ronynnau beta. Mae gronyn beta yn electron sy’n cael ei fwrw allan o niwclews pan mae niwtron yn troi’n broton. sy'n cael ei dderbyn yn y canfodydd.
Question
Pam defnyddio ymbelydredd beta?
Fyddai alffa ddim yn treiddio drwy'r papur. Mae gama mor dreiddiol, fyddai yna ddim llawer o wahaniaeth yn y darlleniad pe bai'r papur yn rhy drwchus. Wrth ddefnyddio ffynhonnell beta, mae'r gyfradd cyfrif yn lleihau wrth i'r trwch gynyddu.
Question
Fyddai hanner oes y ffynhonnell beta yn hir neu'n fyr?
Hir. Dwyt ti ddim eisiau gorfod gosod ffynhonnell newydd bob rhai dyddiau, a byddai hanner oes byr yn golygu y gallai'r gyfradd cyfrif fod yn lleihau er bod trwch y papur yn aros yr un fath.
Diheintio offer meddygol ac ymestyn oes ffrwythau
Mae pelydriad gamaMath o belydriad niwclear sy’n don electromagnetig egni uchel. yn lladd microbau a gallwn ni ei ddefnyddio i ddiheintio offer meddygol a lladd y bacteria ar ffrwythau a llysiau fel eu bod nhw'n aros yn ffres am hirach.
Larymau mwg
Rydyn ni'n defnyddio isotop o americiwm sy'n allyrru gronyn alffaGronyn is-atomig sy’n cynnwys dau broton a dau niwtron (yr un fath â niwclews heliwm). mewn larymau mwg. Mae ymbelydredd alffa yn ïoneiddioÏoneiddio yw'r broses o drawsnewid atom neu foleciwl di-wefr yn ronyn wedi'i wefru, drwy ychwanegu neu dynnu electronau. aer, sy'n golygu bod cerrynt bach yn gallu llifo rhwng dau electrod. Mae pŵer treiddio alffa yn wan felly mae mwg yn ei atal, mae'r cerrynt yn lleihau ac mae'r larwm yn seinio.
Mae angen isotop sy'n allyrrydd alffa â hanner oes hir. Mae hyn yn golygu na fydd angen newid y larwm mwg bob dydd.
Olinyddion gwaed a hylifau
Olinydd yw rhywbeth sy'n dangos sut mae gwrthrych yn symud. Rydyn ni'n ychwanegu olinyddion ymbelydrol at hylifau i weld a ydyn nhw'n llifo'n iawn. Maen nhw'n gallu dangos symudiad llygredd, er enghraifft carthion neu olew gwastraff o ffatrïoedd, ond rydyn ni'n eu defnyddio nhw gan fwyaf ym maes meddygaeth i fonitro llif gwaed.
Mae tecnetiwm-99, sy'n ffynhonnell gama â hanner oes byr o tua chwech awr, yn cael ei chwistrellu i'r gwaed. Mae rhwystrau mewn rhydwelïau neu waedu mewnol yn achosi i ymbelydredd gronni, ac mae'n hawdd canfod hyn o'r tu allan i'r corff. Rydyn ni'n defnyddio'r un egwyddor i ganfod gollyngiadau mewn pibellau tanddaearol. Bydd gollyngiad yn achosi i ymbelydreddEgni sy'n cael ei gludo gan ronynnau o sylwedd ymbelydrol, neu'n lledaenu o ffynhonnell. gronni, a gallwn ni ganfod hyn o uwchben y ddaear.
Question
Pam dewis ffynhonnell gama â hanner oes byr?
Mae'n rhaid i'r ffynhonnell fod yn dreiddiol iawn i ni allu ei chanfod o'r tu allan i'r corff neu o uwchben y ddaear. Yn fewnol, dydy gama ddim mor ïoneiddiol ag alffa na beta, felly mae llai o risg o niwed i gelloedd. Rydyn ni'n dewis hanner oes byr fel nad yw'r ymbelydredd yn aros yn y corff neu'r pibellau am amser hir iawn – unwaith eto, i leihau'r risg.
Trin canser
Yn allanol gallwn ni baladru ymbelydredd gama at gelloedd canser i'w lladd nhw. Dylid defnyddio ffynhonnell gama â hanner oes hir i gynnal dos yr ymbelydredd sy'n cyrraedd y tiwmor. Mae hanner oes hir hefyd yn golygu na fydd angen newid y ffynhonnell yn y cyfarpar radiotherapi yn rhy aml.
Yn fewnol, gallwn ni chwistrellu ffynhonnell alffa â hanner oes byr yn uniongyrchol i mewn i'r tiwmor. Therapi alffa wedi'i dargedu yw hyn. Mae alffa yn ïoneiddio'n gryf – felly bydd yn lladd y celloedd canser. Hefyd, mae ei bŵer treiddio'n wan felly mae'n aros y tu mewn i'r tiwmor heb niweidio'r celloedd iach y tu allan i'r tiwmor.
Dyddio carbon-14
Mae pethau byw fel planhigion ac anifeiliaid yn amsugno carbon-14 bob dydd. Ar ôl i ni farw, dydyn ni ddim yn amsugno mwy o carbon-14 ac mae dadfeiliad yr isotop yn dilyn y gromlin dadfeiliad arferol.
Mae hanner oes carbon-14 yn 5,730 mlynedd. Os ydyn ni'n dod o hyd i blanhigyn neu asgwrn wedi'i ffosileiddio sy'n cynnwys 25% o'r carbon-14 fyddai ynddo pan oedd yn fyw, bydden ni'n gwybod bod y ffosil yn 11,460 mlwydd oed oherwydd byddai dau hanner oes wedi mynd heibio.
100% → 50% → 25%
Dau hanner oes × 5,730 mlynedd = 11,460 mlynedd.