Rydyn ni'n defnyddio isotopau ymbelydrol i fonitro llif gwaed, i drin canser, ar gyfer dyddio carbon ac mewn larymau mwg. Mae gan bob isotop ei hanner oes nodweddiadol ei hun.
Mae taenlenMeddalwedd sy’n cael ei ddefnyddio i drin data. yn ddefnyddiol i gasglu canlyniadau'r dosbarth ar gyfer yr arbrawf. Mae'r daenlen hon wedi casglu canlyniadau'r disiau oedd ar ôl mewn deg grŵp ac yna wedi nodi'r cyfartaledd yn y golofn werdd.
Mae'r dechneg hon yn lleihau effeithiau canlyniad afreolaiddPan mae rhywbeth yn annisgwyl, neu’n gwyro oddi wrth yr hyn sy’n cael ei ystyried yn normal dan yr amodau hynny. ac yn gwneud y graff dadfeiliad yn fwy llyfn.
Wrth blotio graff o nifer cymedrig y disiau sydd ar ôl yn erbyn nifer y tafliadau, dylet ti gael graff sy'n edrych yn debyg i hwn.
Mae'r graff hwn yn fodel ar gyfer dadfeiliad ymbelydrol.
Question
Tua faint o dafliadau gymerodd hi i nifer y disiau haneru o'r nifer cychwynnol?
Mae'n cymryd tua thri thafliad a hanner i nifer y disiau ostwng o 60 i 30.
Dyma'r hanner oes.