Rydyn ni'n defnyddio isotopau ymbelydrol i fonitro llif gwaed, i drin canser, ar gyfer dyddio carbon ac mewn larymau mwg. Mae gan bob isotop ei hanner oes nodweddiadol ei hun.
Pan mae niwclews ymbelydrol yn dadfeilio, mae'n gwneud hynny ar hap. Alli di ddim rhagfynegi pryd y bydd yn digwydd. Fodd bynnag, os yw llawer o niwclysau o'r un isotop yn dadfeilio, byddant yn dilyn patrwm o'r enw cromlin dadfeiliad ymbelydrol.
Gallwn ni ddefnyddio ciwbiau, disiau neu ddarnau arian i fodelu dadfeiliad ymbelydredd mewn elfen ymbelydrol.
Mewn dadfeiliad, mae niwclewsY niwclews yw rhan ganolog atom. Mae'n cynnwys protonau a niwtronau, a'r rhan fwyaf o fàs yr atom. gwreiddiol ymbelydrol yn rhyddhau gronyn alffa neu beta ar hap ac yn troi'n epilelfen newydd. Mae'r epilelfen yn fwy sefydlog. Ar gyfer yr enghraifft hon, rydyn ni'n mynd i ddefnyddio darnau arian.
Cam un. Casglu'r darnau arian a'u cyfrif nhw. Dyma nifer cychwynnol yr atomau ymbelydrol gwreiddiol. Cofnodi'r nifer hwn. Mae rhwng 60 a 100 darn arian yn nifer da i ddechrau.
Cam dau. Rhoi'r darnau arian mewn cynhwysydd, eu hysgwyd nhw, ac yna eu taflu nhw i mewn i hambwrdd.
Cam tri. Tynnu'r darnau arian sy'n dangos pen. Mae'r rhain yn cynrychioli atomau sydd wedi dadfeilio.
Cam pedwar. Cyfri'r darnau arian sydd ar ôl a chofnodi'r nifer mewn tabl yn erbyn rhif y tafliad.
Cam pump. Ailadrodd camau dau i bedwar tan mai dim ond dau neu dri darn arian sydd ar ôl.
Cam chwech. Plotio graff o nifer y darnau arian sydd ar ôl (echelin-\(\text{y}\)) yn erbyn rhif y tafliad (echelin-\(\text{x}\)).
Bydd y darnau arian sydd ar ôl yn ffurfio patrwm tebyg i'r un yn y llun.
Mae’r animeiddiad hwn yn egluro mwy am blotio graff cromlin dadfeiliad.