Rydyn ni'n defnyddio isotopau ymbelydrol i fonitro llif gwaed, i drin canser, ar gyfer dyddio carbon ac mewn larymau mwg. Mae gan bob isotop ei hanner oes nodweddiadol ei hun.
Dilyn y camau hyn i ganfod yr hanner oes o cromlin dadfeiliadGraff sy’n dangos sut mae actifedd isotop ymbelydrol yn newid dros amser.. Yn yr enghraifft hon, mae'r actifedd cychwynnol yn 80 cyfrif/munud.
Yn yr enghraifft hon, mae'r actifedd yn dechrau ar 80 o gyfrifon y funud.
Image caption,
Hanner 80 yw 40. Darganfydda hwn ar y graff.
Image caption,
Edrych ar y pwynt hwn ar y graff mewn perthynas ag echelin-y. Byddi di'n gweld fod cyfradd cyfrifon y funud wedi haneru mewn dau ddiwrnod. Mae hyn yn golygu mai dau ddiwrnod yw'r hanner oes.
1 of 3
Slide1 of 3, Graff yn plotio Cyfrifon y funud yn erbyn Amser (dyddiau). Mae’r cyfrifon y funud yn mynd o 0 i 80. Mae’r amser yn mynd o 0 i 10 diwrnod. Mae cylch o amgylch 80 cyfrif y funud ar yr echelin-y., Yn yr enghraifft hon, mae'r actifedd yn dechrau ar 80 o gyfrifon y funud.
End of image gallery
Gan ddilyn y camau hyn, ceisia ateb y cwestiynau a ganlyn.