Ailadeiladu'r wlad ar ôl 1945Yr ymateb i ddiwygiadau Llafur ar ôl y rhyfel

Roedd y Llywodraeth Lafur ar ôl y rhyfel yn 1945 yn benderfynol o gyflwyno newidiadau allweddol fyddai’n gwella bywydau pobl a sefydlu wladwriaeth les. Sut wnaeth y Llywodraeth Lafur ddelio â phroblemau’r oes?

Part ofHanesDirwasgiad, rhyfel ac adferiad, 1930-1951

Ymateb i ddiwygiadau Llywodraethau Llafur ar ôl y rhyfel

Roedd yr ymateb i’r diwygiadau hyn yn amrywio. Petaech yn edrych yn ôl drwy’r meysydd yma, byddech y gweld amryw o lwyddiannau a beth oedd rhai yn ei ystyried yn fethiannau.

Llwyddiannau

  • Roedd y GIG yn cynnig gofal iechyd am ddim i bawb, yn cynnwys y rhai na allai ei fforddio o’r crud i’r bedd.
  • Roedd y polisi Cartrefi i Bawb wedi arwain at adeiladu trefi newydd, megis Cwmbrân, a bu i nifer o deuluoedd elwa o’r tai parod.
  • Roedd pawb yn cael addysg am ddim.
  • Roedd gwladoli yn darparu gwell amodau gwaith mewn diwydiannau allweddol i gymaint o bobl.

Methiannau

  • Roedd y GIG yn amhoblogaidd ymysg nifer o feddygon ac ystyriwyd bod y gost o’i gynnal yn anferthol.
  • Ni chyrhaeddodd Cartrefi i Bawb ei darged uchelgeisiol.
  • Roedd nifer yn ystyried bod y profion addysg ‘11-plus’ yn annheg, ac roedd nifer o aelodau’r Blaid Lafur yn dymuno cyflwyno strwythur ysgolion cyfun lle’r oedd disgyblion o bob gallu a chefndir yn cael eu haddysgu gyda’i gilydd.
  • Ystyriwyd bod gwladoli yn gwarchod diwydiannau oedd yn dirywio, a hynny am gost uchel.

Agweddau eraill

  • Er y diwygiadau, buddugoliaeth o drwch blewyn yn unig gafodd y Blaid Lafur yn etholiad 1950.
  • Roedd dogni nwyddau yn dal i fodoli bum mlynedd ar ôl diwedd yr Ail Ryfel Byd.
  • Roedd y diwygiadau wedi arwain at godi trethi nifer o bobl.
  • Roedd y Ceidwadwyr yn herio gwladoli’r diwydiannau dur, ac roedd y Blaid Lafur yn cael ei gwanhau oherwydd rhaniadau mewnol.
  • Galwyd etholiad arall yn Hydref 1951. Enillodd y Ceidwadwyr yr etholiad a dychwelodd Winston Churchill i fod yn Brif Weinidog.
  • Er gwaetha newid llywodraeth, parhaodd y .
Dau ddyn yn edrych ar gyfres o bosteri’r Blaid Geidwadol ar wal. Geiriau: Cut out Government waste. Vote Conservative.
Image caption,
Poster y Blaid Geidwadol, 1951