Adroddiad Beveridge
Yn 1941, fe wnaeth Llywodraeth Glymblaid y rhyfel sefydlu Comisiwn Brenhinol dan ofal y gwleidydd Rhyddfrydol, Syr William Beveridge, i ddarganfod pa fath o Brydain yr oedd pobl eisiau ei gweld ar ôl y rhyfel.
Enw swyddogol yr adroddiad, a chafodd ei gyhoeddi yn 1942, oedd Social Insurance and Allied Services, ac roedd yn cynnwys cynlluniau i wella Prydain ar ôl i’r rhyfel ddod i ben.

O ganlyniad i’w ymchwil, datganodd bod yna bum cawr ar y ffordd i ailadeiladu
, sef:
- angen – incwm digonol i bawb
- afiechyd – mynediad i ofal iechyd
- anwybodaeth – addysg dda
- aflendid – tai digonol
- segurdod – cyflogaeth enillol
Er mwyn gwella Prydain a thaclo’r pump ‘cawr drwg’ yma, cynigiodd sefydlu gwladwriaeth les.
Pam fod cymaint o wleidyddion a phobl yn dymuno sefydlu gwladwriaeth les?
Roedd pobl wedi aberthu cymaint yn ystod yr Ail Ryfel Byd, roedden nhw’n credu eu bod wedi ymladd i gael gwell dyfodol a’u bod yn haeddu hynny oherwydd eu cyfraniad i’r rhyfel. Roedd nifer yn credu mewn cymdeithas decach gyda:
- gofal meddygol am ddim
- pensiwn henoed
- tai fforddiadwy
Y syniad oedd i gynnig rhwyd ddiogelwch i bobl o’r crud i’r bedd
. Roedd yn un o bolisïau allweddol y Blaid Lafur – fel yr addawyd hynny yn ymgyrch etholiadol 1945.