Ailadeiladu'r wlad ar ôl 1945Prif newidiadau Llywodraeth Lafur: 1945-50

Roedd y Llywodraeth Lafur ar ôl y rhyfel yn 1945 yn benderfynol o gyflwyno newidiadau allweddol fyddai’n gwella bywydau pobl a sefydlu wladwriaeth les. Sut wnaeth y Llywodraeth Lafur ddelio â phroblemau’r oes?

Part ofHanesDirwasgiad, rhyfel ac adferiad, 1930-1951

Y prif newidiadau a gyflwynwyd gan y Llywodraeth Lafur, 1945-50

Roedd y Llywodraeth Lafur wedi cyflwyno newidiadau er mwyn ceisio creu cymdeithas decach.

Deddfau Llafur-Addysg 1944, Lwfans Teulu 1945, Yswiriant Gwladol 1946, Anafiadau Diwydiannol 1946, Trefi Newydd 1946, Cynllunio Gwlad a Thref 1947, Gwasanaeth Iechyd Gwladol 1948, Plant 1948

Deddf Addysg 1944

Roedd y Ddeddf hon yn nodi mai 15 oedd oedran gadael ysgol a chyflwynwyd ysgolion uwchradd am ddim. Roedd disgyblion yn sefyll prawf IQ yr ‘11-plus’ i benderfynu a oedden nhw’n mynd i ysgol ramadeg, i ysgol uwchradd fodern neu i ysgol dechnegol, felly roedd dewis ysgol yn seiliedig ar allu, nid incwm rhieni.

Deddf Lwfans Teulu 1945

Rhoddwyd 5 swllt (gwerth £7.54 heddiw) yr wythnos am bob plentyn ar ôl y cyntaf-anedig er mwyn helpu i dalu am ychydig o’r costau sy’n gysylltiedig â magu plant, ee dillad, bwyd.

Deddf Yswiriant Gwladol 1946

Tâl diweithdra am chwe mis a thâl salwch am ba hyd bynnag yr oedd rhywun yn sâl. Budd-dal mamolaeth. Grantiau marwolaeth i helpu tuag at gostau angladd. Pensiynau henoed yn 65 oed i ddynion a 60 i ferched.

Deddf Anafiadau Diwydiannol 1946

Budd-daliadau ychwanegol i bobl oedd yn cael eu hanafu yn y gwaith.

Deddf Trefi Newydd 1946

Roedd hon yn awdurdodi adeiladu trefi newydd megis Stevenage, Basildon, Newton Wycliffe a Peterlee.

Deddf Gwasanaeth Iechyd Gwladol 1946

Daeth Deddf GIG Aneurin Bevan i rym ar 5 Gorffennaf 1948. Roedd meddygon, ysbytai, deintyddion, optegwyr, ambiwlansys, bydwragedd ac ymwelwyr iechyd ar gael am ddim i bawb.

Deddf Cynllunio Gwlad a Thref 1947

Roedd y Ddeddf hon wedi pennu targed o adeiladu 300,000 o dai newydd bob blwyddyn. Adeiladwyd 1.25 miliwn o dai cyngor rhwng 1945 a 1951. Roedd hefyd yn diffinio tir gwyrdd oedd yn rhaid ei gadw’n wledig.

Deddf Plant 1948

Roedd hon yn ei gwneud yn ofynnol i gynghorau ddarparu tai da a gofal i’r holl blant oedd wedi eu 'hamddifadu o fywyd cartref normal'.

Drwy fabwysiadu’r syniadau yn llyfr yr economegydd J M Keynes, General Theory of Employment, Interest, and Money (1936), fe ddysgodd y Llywodraeth sut oedd cadw’r economi’n fyw drwy gynyddu gwariant cyhoeddus.